galeri


TONIC: Geraint Løvgreen

image

Pleser mawr yw croesawu Geraint Løvgreen i gyflwyno awr o’i ganeuon a’i gerddi i gynulleidfa TONIC am y tro cyntaf.

 

Magwyd Geraint yn Wrecsam a’r Drenewydd, ond mae’n byw yng Nghaernarfon ers blynyddoedd. Mae’n gyfieithydd llawrydd ac yn fardd a chanwr-gyfansoddwr poblogaidd a llwyddiannus.

 

Mae ei ganeuon yn aml yn gyweithiau gyda beirdd “go-iawn”, fel mae o’n eu galw, gan gynnwys y diweddar Iwan Llwyd, Mei Mac a’r Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb.

Digwyddiad Cymraeg

Bydd paned i ddilyn

14:30 - Dydd Iau, 5 Medi Tocynnau