Dod i Galeri yn rheolaidd? Eisiau arbed arian yn y pendraw? Dyma ddau gynllun aelodaeth i'ch helpu!

Rydym yn falch iawn o gyflwyno cynllun aelodaeth Prima+ i chi!
Eich mynediad i gynigion arbennig – yn ddisgownt 10% ar draws y Cwmni, yn y caffi, bar (ac eithrio alcohol), yn y sinema ac i ddigwyddiadau byw cymwys, rydym yn awyddus i ddiolch i chi am eich ymroddiad.
Mewn Llydaweg, Almaeneg ac Eidaleg, mae Prima yn golygu’r cyntaf, yr arbennig, y gorau. O’r Prima Donna i'r Prima Volta, mae’n derm sy’n gyfarwydd i ni ar y llwyfan ac yn nhermau cerddorol – sy’n rhan annatod o arlwy Galeri.
Mae Prima+ yn ddatblygiad ar gynllun gwreiddiol, Prima. Rydym yn datblygu ein rhaglen, ein gwasanaeth ac ein hymroddiad i'r gymuned – ac mae cael eich croesawu chi i fwynhau yma yn fraint.
Am £30 y flwyddyn, rydym yn gobeithio y byddech chi’n gwneud y mwyaf o’n cynigion o;r rhaglen i’r fwydlen! Os yn aelod Prima presenol, byddwn yn uwchraddio eich aelodaeth ar ddim cost i chi.
Mwynhewch!
Prima+ yw cynllun aelodaeth newydd Galeri, wedi’i greu i roi mwy o fuddion, mwy o arbedion, a mwy o groeso i’n haelodau mwyaf ffyddlon. Am £30 y flwyddyn, cewch fwynhau 10% i ffwrdd yn y caffi, y bar (heb gynnwys alcohol), tocynnau sinema, a digwyddiadau byw lle bo’n gymwys. Chwiliwch am yr arwydd Prima+ wrth ymyl digwyddiadau sy’n cynnig y gostyngiad.
Ar ôl ymuno, bydd aelodau’n derbyn pecyn aelodaeth sy’n cynnwys eich cerdyn Prima+. Bydd angen y cerdyn wrth archebu’n bersonol yn y caffi, y bar neu yn y dderbynfa - gyda’r system yn cysylltu’n awtomatig â’ch cyfrif Ticketsolve.
Os ydych yn archebu tocynnau ar-lein drwy wefan Galeri, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif.
Trefnir y taliad drwy ddebyd uniongyrchol, gan adnewyddu’r aelodaeth yn awtomatig bob 12 mis.
1. Cyffredinol
2. Cost ac adnewyddu
3. Buddion
4. Cofrestru a dilysu aelodaeth
5. Pecyn Aelodaeth a cherdyn
6. Terfynu neu atal aelodaeth
7. Data personol
8. Cysylltu
Ar gyfer ymholiadau ynghylch Prima+, cysylltwch â’n derbynfa neu ewch i galericaernarfon.com.