Fel menter gymunedol ddi-elw, mae gwireddu potensial diwylliannol Caernarfon a'r cyffiniau wrth galon ein holl waith. Ac un o’r ffyrdd rydym yn cyflawni hynny yw trwy ein rhaglen eang o gyfleoedd creadigol, sy’n agor drysau celfyddydol i bawb.
O Glwb Drama Sbarc a sesiynau Symud a Cain i Gôr Lleisiau Llawen — rydym yn cynnig cyfleoedd sy'n dod â phobl ynghyd, meithrin hyder, annog hunanfynegiant a dathlu’r hwyl o gymryd rhan.
Rhaglen berfformio i bobl ifanc yn mlynyddoedd ysgol 3 i 6 yw Sbarc — sy'n rhoi cyfle i blant archwilio drama, magu hyder a datblygu’u sgiliau perfformio. Mae ein sesiynau’n rhedeg yn wythnosol trwy gydol 2025, gyda dau berfformiad theatr llawn bob blwyddyn. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnynt — ond yr awydd i gymryd rhan! Rydym bob tro’n awyddus i groesawu aelodau newydd lle bo hynny’n bosib, ond noder fod yna gapasiti cyfyngedig.
Cost am dymor: £85 (noder fod ambell le ar gael ar gyfer teuluoedd incwm isel).
Am fwy o wybodaeth, neu i ddatgan diddordeb, ebostiwch Lowri: lowri.cet@galericaernarfon.com
Sesiynau lles sy’n annog yn union hynny: symud a dawnsio. Y bwriad yw deffro a chysylltu â’r corff mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol — gan ryddhau’r dychymyg ar yr un pryd. Yn addas i bob gallu — i'r rhai egnïol a’r rhai sy'n gyfyngedig yn eu gallu i symud, sydd â phroblemau gyda phoen, neu'n gwella ar ôl salwch.
£6 y sesiwn. Oed 16+. Archebwch docyn Symud yma.
Mae Cain yn gwmni symud a dawns ar gyfer pobl dros 60 oed — sy’n archwilio creadigrwydd, datblygu hyfforddiant corfforol, dathlu’r dychymyg a chefnogi mynegiant a llais artistig bobl hŷn.
Mae‘r grŵp wedi bod yn rhedeg ers 2010, ac wedi dangos eu gwaith yn Ngŵyl Elixir yn Llundain ac wedi teithio i Wlad y Basg am gyfnod creadigol preswyl.
Mae Cain yn agored i unigolion o bob gallu, ond gofynnwn ichi fynychu sesiynau blasu yn gyntaf. Mae croeso cynnes i bobl wylio’r grŵp yn gweithio, hefyd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm artistig Galeri ar artistig@galericaernarfon.com neu 01286 685 222.
£10 y sesiwn. Oed 60+. Archebwch docyn Cain yma.
Côr cymunedol sy’n defnyddio iaith arwyddo Makaton i berfformio caneuon poblogaidd, dan arweiniad Donna Roberts a Ceri Bostock. Cyfle i fwynhau mewn awyrgylch cynhwysol a gwneud ffrindiau newydd. £3 y sesiwn. Oed 7+ a 16+.
Trowch i fyny i un o’r ymarferion i ymuno.
Eisiau darganfod beth arall sydd ymlaen yn Galeri? Cliciwch yma i weld beth sydd ymlaen. Neu i ddysgu fwy am ein effaith ar gymuned Caernarfon, dilynwch ni ar Facebook ac Instagram.