galeri

Swyddi

poster swyddi newydd

Cydlynydd Creadigol: Prosiectau

Lleoliad: Galeri Caernarfon

Cyflog: £27,000 – £29,500 (pro rata)

Oriau: Rhan amser (oriau i’w trafod)

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, creadigol ac angerddol i arwain ar gynllunio a chyflwyno prosiectau creadigol Galeri. Dyma gyfle i fod wrth galon gwaith cyfranogol ac ymgysylltu sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Ngwynedd a thu hwnt.

Fel Cydlynydd Creadigol: Prosiectau, byddwch yn rheoli prosiectau fel Sbarc, Lleisiau Llawen, Cain a Symud, gan sicrhau bod pob un yn cael ei gynllunio, ei reoli a’i werthuso’n effeithiol. Byddwch yn cydweithio’n agos gydag artistiaid, partneriaid, gweithwyr llawrydd a chyllidwyr, gan sicrhau bod prosiectau’n bodloni amodau cyllido ac yn adlewyrchu gweledigaeth artistig Galeri. Mae’r rôl yn gofyn am rywun hyblyg, trefnus ac egnïol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Swydd Ddisgrifiad (PDF)
Ffurflen Gais (Word)
Ffurflen Gais (PDF)

Cyflwynwch Ffurflen Gais dros e-bost i swyddi@galericaernarfon.com cyn 9yb, dydd Gwener 8 Mai. Mae croeso i chi ddod â chopi caled i swyddfa Galeri.

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y rôl hon yn fuan ar ôl y dyddiad cau.


Cydlynydd Creadigol: Rhaglennu

Lleoliad: Galeri Caernarfon

Cyflog: £27,000 – £29,500 (pro rata)

Oriau: Rhan amser (oriau i’w trafod)

Rydym yn chwilio am drefnydd rhagorol gyda brwdfrydedd dros y celfyddydau i gefnogi datblygu a chyflwyno rhaglen fyw Galeri. Dyma gyfle i fod yn rhan o dîm sy’n dod â gigs, theatr, comedi a sinema o safon i Gaernarfon.

Fel Cydlynydd Creadigol: Rhaglennu, byddwch yn helpu i gynllunio a threfnu’r rhaglen artistig o ddydd i ddydd - o gadarnhau dyddiadau a threfnu gofodau, i baratoi cytundebau, briffiau digwyddiadau ac asesiadau risg. Byddwch yn gweithio’n agos gydag artistiaid, asiantau, cwmnïau teithiol a dosbarthwyr ffilm, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn cyrraedd y timau priodol. Rydym yn chwilio am rywun trefnus, hyderus ac yn gwbl ddwyieithog, gyda dealltwriaeth o lif gwaith digwyddiadau byw.

Swydd Ddisgrifiad (PDF)
Ffurflen Gais (Word)
Ffurflen Gais (PDF)

Cyflwynwch Ffurflen Gais dros e bost i swyddi@galericaernarfon.com cyn 9yb, dydd Gwener 8 Mai. Mae croeso i chi ddod â chopi caled i swyddfa Galeri.

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y rôl hon yn fuan ar ôl y dyddiad cau.

Eisiau darganfod mwy am ein gwaith a diwylliant Galeri? Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram, neu gwnewch gysylltiadau ag aelodau staff Galeri ar LinkedIn.


Gwirfoddoli yn Galeri

Os hoffech wirfoddoli/stiwardio, cysylltwch â ni drwy ebostio post@galericaernarfon.com neu drwy ffonio 01286 685 250


Profiad gwaith

Am gyfleoedd profiad gwaith neu os hoffech anfon eich CV ymlaen : post@galericaernarfon.com | 01286 685 250