Rhaglen gelf i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau artistig a darparu cyfleoedd creadigol i bawb!
Agored i bobl ifanc 14-18 oed.
Dyddiadau:
24/06, 01/07, 11,07, 12/07, 13/07, 14/07, 18/07, 20/07, 24/07, 25/07, 26/07, 27/07. (12 diwrnod i gyd) Cysylltwch â ni os na allwch fynychu pob sesiwn a gallwn geisio darparu ar gyfer hyn.
Amseroedd gweithdai:
10-3yp gydag awr cinio
I gymryd rhan cyflwynwch 1 ddelwedd o waith celf ddiweddar mewn unrhyw gyfrwng, a chymeradwyaeth gan riant / mentor / gofalwr yn egluro pam y byddai’r person ifanc yn addas ar gyfer y prosiect hwn i ffion.evans@galericaernarfon.com erbyn Mehefin 11eg.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig pobl ifanc dalentog nad ydynt efallai wedi cael y cyfle na’r hyder i fynychu gweithdai celf o’r blaen.
Mae pob gweithdy yn rhad ac am ddim
Cefnogaeth hygyrchedd ar gael, e-bostiwch ffion.evans@galericaernarfon.com i ddarganfod mwy.