31.03.23 DIOLCH Gwyn
Heddiw yw diwrnod olaf Gwyn Roberts fel ein Prif Weithredwr.
Gwyn oedd aelod staff cyntaf y cwmni nol yn 1992 pan sefydlwyd Cwmni Tref Caernarfon yn Stryd y Plas.
31 mlynedd yn ddiweddarach, mae Gwyn wedi arwain, ysbrydoli a datblygu’r cwmni o fod yn gwmni adfywio yn bennaf i bellach fod yn un o prif fentrau cymunedol Cymru a chyflogwr hynod bwysig yn yr ardal. Mae’r cwmni yn parhau i fod wedi gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned ac yn berchen ar dros 20 o adeiladau ofewn tref Caernarfon (yn siopau/swyddfeydd/caffis/salonau/tai a fflatiau), yn gyfrifol am adeilad a rhaglen weithgareddau Galeri yn Doc Victoria a hefyd rheoli safle Cei Llechi sydd yn gartref i wneuthurwyr o bob math.
“Mae ein dyled yn fawr i Gwyn fel bwrdd am ei waith dros y 30 mlynedd diwethaf. Pan sefydlwyd y cwmni nol yn 1992, pwy fyddai wedi dychmygu y gwahaniaeth mae’r cwmni wedi ei wneud yn y dref, gan fod yn gatalydd i adfywio ac ail-danio economi’r dref. Mae llwyddiant a datblygiad y cwmni dros y tri deg mlynedd yn un sydd i’w glodfori, ac yn arwain ar hyn oll dros y blynyddoedd mae Gwyn. Dwi’n siwr byddai cymuned Caernarfon a’r dalgylch hefyd yn dymuno diolch i Gwyn am ei waith a’i ddyfalbarhad. Gall Gwyn edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw hefo Cwmni Tref Caernarfon ac yna Galeri Caernarfon gyda balchder. Mae ei weledigaeth yn amlwg yng Nghaernarfon heddiw.” Iestyn Harris, Cadeirydd Galeri Caernarfon Cyf
Bydd Gwyn yn parhau i weithio i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Datblygu, gyda Steffan Thomas yn cymryd yr awenau fel y Prif Weithredwr newydd.
Ar ran holl aelodau’r staff a’r bwrdd (presennol a blaenorol), ein tenantiaid, cynulleidfaoedd, cwsmeriaid a holl gymuned yr ardal sydd wedi elwa o waith Galeri Caernarfon Cyf – DIOLCH Gwyn. |