galeri


SBARC 2026 - BL 3 & 4

image

Clwb Drama i Blant

Mae Sbarc yn ôl gyda tymor gyfan o wersi drama wythnosol ar gyfer plant blwyddyn ysgol 3 a 4 (oed 7 – 9), yma yn Galeri. 

Dyma gyfle i blant ddysgu a datblygu sgiliau drama a pherfformio mewn sesiynau hwyliog dan ofal ein tiwtoriaid, Sion Emlyn a Tesni.

Cynhelir ar nosweithiau Llun rhwng 17:30 – 18:30 ar y dyddiadau isod:

Ionawr: 12, 19, 26

Chwefror: 2, 9, 23

Mawrth:  2, 9, 16, 23

Mae tymor yn costio £85.

Oherwydd capasiti cyfyngedig, rydym yn blaenoriaethu aelodau i archebu eu llefydd gyntaf cyn agor llefydd gwag.

Mae ambell le ar gael yn rhad ac am ddim i blant o deuluoedd incwm-isel. I ddatgan diddordeb yn y bwrsari yma, ebostiwch  lowri.cet@galericaernarfon.com

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost at  lowri.cet@galericaernarfon.com  cyn y sesiwn gyntaf a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

17:30 - Dydd Llun, 12 Ionawr Tocynnau