Sbarc yw darpariaeth ieuenctid Galeri ar gyfer y celfyddydau perfformio. Dros y blynyddoedd, ‘da ni wedi cynhyrchu degau o sioeau, miloedd o sesiynau creadigol ac wedi gosod y sylfeini i rai o’r actorion, cerddorion ac ysgrifennwyr a chyfansoddwyr mwyaf talentog o’r ardal leol.
Mae Sbarc yn cynnig sesiynau drama wythnosol i blant trwy gydol 2025. Mae’r sesiynau hwyliog a chyffrous yma’n gyfle gwych i blant feithrin hyder, datblygu sgiliau gweithio mewn tîm ac ehangu eu galluoedd mewn actio a pherfformio. Bob blwyddyn, ‘da ni’n cynhyrchu dwy sioe lawn yn y theatr, gan ddathlu’r holl waith caled o’r sesiynau.
Ar hyn o bryd mae gwersi wythnosol Clwb Drama Sbarc uwchrad ar agor, i archebu eich lle dilynwch y ddolen isod:
Da ni wastad yn awyddus i glywed gan unigolion creadigol sydd â phrofiad neu sydd eisiau datblygu eu sgiliau wrth arwain gweithdai a chreu gwaith creadigol gyda phlant a phobl ifanc. Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb, cysylltwch â: lowri.cet@galericaernarfon.com
Cefnogir y prosiect gan y Gronfa Creu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dyma luniau o gynhyrchiad 2024 Sbarc cynradd o Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn a chaneuon gan Gwilym Bowen Rhys.
A dyma luniau o gynhyrchiad 2024 Sbarc uwchradd o Grîs.



Lluniau sioe Sbarc 2025 – Yr Archarwyr a’r Ruddem Ryfeddol


