galeri


Safle Celf

Dyma’r arddangosfeydd sydd gennym yma’n Galeri ar hyn o bryd:

Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Ar y Ffram

Bri / Essence / Brí

Gorffennaf – Hydref 2023

Bri: Natur gynhenid neu ansawdd anhepgor rhywbeth
Essence: The intrinsic nature or indispensable quality of something
Brí: Nádúr intreach nó cáilíocht fíor-riachtanach do rud éigin

Gan bontio'r bwlch rhwng Celfyddyd Gain a Ffasiwn, mae Ríon Hannora yn creu celf gwisgadwy. Gydag amnaid i'r cyfnod baróc a graffiti trefol mae cyfosodiad yn aml trwy gydol ei chasgliadau. Mae’r weithred o gydweithio hefyd i’w chael yn aml yn ei gwaith ac nid yw’r arddangosyn hwn yn eithriad i hynny. Roedd dod â gwledydd cyfagos ynghyd drwy’r cyfuniad hwn o ffasiwn a chelfyddyd gain yn nod o’r cychwyn cyntaf ac felly, estynnodd Ríon allan at dri artist Cymreig a dau artist Gwyddelig i gydweithio ar y prosiect hwn; Ffion Evans, Aisling Phelan, Morgan Dowdell, Osian Efnisien ac Amelia Greham. Rhoddwyd dilledyn yr un i Evans, Phelan, Dowdell ac Efnisien, a wnaed gan Ríon yn ei stiwdio yn Nulyn i archwilio eu hymarfer eu hunain trwy ddefnyddio dillad. Rhoddwyd ychydig dros fis i bob artist wneud y cynfas gwag hwn o ddilledyn, yn rhywbeth arall yn gyfan gwbl. Trwy'r amser, creodd Amelia Greham y modelau lle mae'r dillad hyn yn cael eu harddangos.


Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

SAFLE CELF

Cymdeithas Brydeinig Enamelwyr:

Nod ein cymdeithas yw hyrwyddo rhagoriaeth yng ngwaith enamel Prydeinig a gwaith enamelwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y wlad yma a thramor. Mae gan y gymdeithas aelodaeth eang, yn cynwys lefelau o allu o fyfyrwyr hyd at lefel proffesiynol. Wedi ei lleoli yn y D.U.mae gan y BSOE gysylltiadau rhyngwladol ac mae’n cynnig cyfleon arddangos, ysgoloriaethau, galeri ar lein, discownt gyda cwmnia, gweithdai a gweithgareddau ar gyfer yr aelodau. Ein nod yw hyrwyddo’r safonnau ychaf mewn dylunio cyfoes a gwneuthuriaeth ym mhob agwedd o’r gyfrwng unigol yma. EIN NOD YW CYSYLLTU, YSBRYDOLI A CHEFNOGI’R GYMDIETHAS ENAMEL BROFFESIYNOL.


SAFLE CREU Stephen Green Porth Annwn

SAFLE CREU

Gofod Anadlu
Alec Shepley

Mae aer yn anweledig i raddau helaeth ac eto'n rhan annatod o'n bodolaeth. Mae'n symud yn rhydd ar draws ffiniau a thrwy gyrff, gan wrthsefyll ein hymdrechion i'w ddiffinio a'i gynnwys. Mae aer a amlygwyd gan y pandemig coronafirws yn ofod agos a rennir sy'n ein gwneud yn agored i haint. Mae'r aer a anadlwn yn ofod cyffredin ac yn locws ar gyfer fy chwilfrydedd a'm chwarae yn y preswyliad hwn, gan ei fod yn ymwneud â phopeth yn awr ac yn y dyfodol, anghydraddoldeb cymdeithasol, a chyfrifoldeb a rennir. Nod fy mhrosiectau celf pragmatig yw cysylltu â chymuned i ddod â haenau lluosog o brofiad at ei gilydd ac mae hyn yn amlygu ei hun yn fy ngwaith - geiriau, llun, gwrthrychau, ffilmiau, sain ac ati. Trwy’r ‘wybodaeth ofodol’ hon rwy’n anelu at ddarparu darnau sgwrsio. Rwy'n eich gwahodd i ddod i mewn, cymryd sedd ac ymlacio. Hyd yn oed cael gorwedd i lawr. A gwrando ar swn dy anadl dy hun Mwynhewch.


Safle celf cywrain gyda gwahanol grochenwaith wedi arddangos ar fwrdd

Y WAL

Porth Annwn
Stephen Green

Rwy'n ystyried arlunio fel ffordd o weithio allan, deall a gwireddu syniadau yn weledol. Haniaethol yw fy ngwaith yn bennaf; ei fwriad yw cynrychioli fy meddyliau a'm syniadau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gweithio gyda chonfensiynau ffurfiol o luniadu, gan wireddu'r syniad trwy amrywiadau. Ar hyn o bryd fy syniadau yw dehongliadau o chwedlau Cymreig: y Mabinogion. Yn benodol straeon lle mae'r prif gymeriadau'n teithio i fyd cyfochrog (Annwn). Bwriad y delweddau yn yr arddangosfa hon yw awgrymu bylchau yn realiti ein byd lle mae modd teithio i fyd arall, cyfochrog.


Bri / Essence / Brí

DERBYNFA / ORIEL CAFF

Roedd Prosiectau Llwybrau Celf yn canolbwyntio ar brofiadau celf o ansawdd uchel i bobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn, i ddatblygu eu sgiliau artistig ac i roi mewnwelediad dyfnach i ddiwylliant a chyfleoedd creadigol yng Nghymru. Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru am ariannu’r prosiect.



llwybrau celf uwch

Archif Safle Celf

Arddangosfeydd sydd wedi bod yn Galeri

Diddordeb mewn arddangos?

Cysylltwch â’n cydlynydd celf a chrefft am sgwrs ac i drafod y broses o ymgeisio am arddangosfa:
ffion.evans@galericaernarfon
01286 685 208

I'r Byw