galeri

Archif Safle Celf

Dyma archif o arddangosfeydd sydd wedi bod yma’n Galeri:

AGORED 2023

Safle Celf / Safle Creu / Y Wal / Derbynfa: AGORED 2023

02/12/23 - 27/01/24

Mae’r arddangosfa Agored yn cynnwys dros 60 o weithiau celf gan artistiaid ardraws Gymru a’r DU. Mae'r arddangosfa'n dathlu ystod eang o beintio, lluniadu, print, ffotograffiaeth, tecstilau, cerflunwaith a ffilm.

Ymhlith y beirniaid eleni roedd yr artistiaid Paul Eastwood a Llinos Owen, Cyfarwyddwr Creadigol Galeri Naomi Saunders a Chydlynydd Celf Galeri Ffion Evans.

Gwobr y beirniaid £1000 – Sioned Mason Smith
Canmoliaeth Uchel £400 – Megan Glyn
Gwobr Dewis y Bobl £250 – Dewch i Galeri Caernarfon i bleidleisio dros eich hoff waith celf

Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Ar y Ffram: Ffiws

Hannah Walters & Lucy Smith

Hydref 2023 – Ionawr 2024

Mae Ffiws yn gydweithrediad rhwng y seramegydd Hannah Walters a’r awdur Lucy Smith. Dros y 7 mis diwethaf, maen nhw wedi bod yn archwilio’r cysylltiadau rhwng ffyngau a hunaniaethau queer, gan gyfuno eu harferion a chwarae gyda ffurfiau, geiriau, gweadau ac ystyron. Mae ganddynt ddiddordeb yn y ffordd y mae syniadau queer yn cysylltu â symudiadau a ffurfiau myseliwm, sborau a chyrff hadol sy'n byrlymu - yn newidiol, yn drawsnewidiol ac yn herio ffiniau.

Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Safle Celf: Hollti a rhwymo / Cleave

Lesley James

21/10/23 - 25/11/23

Mae Lesley James yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae ganddi ddiddordeb mewn olion arwyneb, ffurf, ac yn y rhwystrau ffisegol ac anweledig rydyn ni'n eu creu.
‘Rwy’n gweld tirwedd y chwarel yn hynod ddiddorol, yn ganlyniad gweladwy o ddinistrio a chreu. Mae’r gwaith yn archwilio llaw’r artist gan ddilyn dwylo gweithwyr y chwarel lechi, gan greu rhwbiadau dwy ochr o wynebau creigiau, waliau, toeau ac offer a ddefnyddir yn y diwydiant llechi.’


Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Gwrando

Veronica Calarco

Astudiodd Dr Veronica Calarco, ‘printmaking’ ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia ac mae ganddi Doethuriaeth mewn ‘printmaking’ o Brifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gyfarwyddwr ‘Aberystwyth Printmakers’ ac yn sylfaenydd Stiwdio Maelor, rhaglen breswyl i artistiaid yng Nghorris, sydd â’i stiwdio argraffu ei hun. Mae wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyfnod preswyl lithograffeg 3 mis yn Umbrella Studios yng Ngogledd Queensland ac mae wedi bod yn artist arweiniol ar y prosiect Molla Wariga / Gwrando Dwfn, gan weithio gydag artistiaid o Gymru, Iwerddon ac Awstralia fel rhan o brosiect Gwrando Cyngor Celfyddydau Cymru. Datblygwyd y printiau hyn yn ystod y cyfnod preswyl yn Umbrella Studios mewn ymateb i brosiect Gwrando. Mae 900 o fasgedi wedi bod yn datblygu dros y 12 mlynedd diwethaf ac wedi'u gwneud o brintiau wedi'u gwrthod gan wneuthurwyr print ledled y byd a llinynnau wedi'u darganfod.

@900 baskets
@veronica.calarco
@welivewiththeland
@stiwdiomaelor


Safle celf Agora

DERBYNFA & Y WAL:

Agora

Treftadaeth Cymru, defod a’r tir

Dehongliadau creadigol o dreftadaeth, llên gwerin, iaith, a thirweddau Cymru - o goedwigoedd hynafol, copaon mynyddoedd, i diroedd tanddwr. Wedi’i wreiddio mewn cynaliadwyedd, archwilio chwareus, ac awydd i feithrin ein cysylltiad personol a diwylliannol â Chymru.

Mae Agora yn arddangos gwaith newydd gan amrywiaeth o artistiaid cyfoes, ynghyd â dogfennu gwaith cydweithredol diweddar a wnaed ar leoliad yn safleoedd treftadaeth Cadw.

Abi Hubbard, Beth Greenhalgh, Catrin Davies, Catrin Menai, Clare Parry Jones, Dan Johnson, Dominique Fester, Ffion Reynolds, Georgia Ruth, Gwenno, Jen Abell, Lewis Prosser, Manon Awst, Peter Evans, Sarah Boulton, Sean Vicary, Teddy Hunter, Tess Wood.


Safle Celf Lle mae'r Goleuni

ORIEL CAFFI

Lle Mae'r Goleuni
Alla Chakir a Roman Nedopaka

Alla Chakir a Roman Nedopaka, teulu o artistiaid o Wcrain. Ers i’r rhyfel ddechrau yn eu mamwlad, maent wedi dod o hyd i loches, cefnogaeth, cyfeillgarwch a chariad yma yng Ngogledd Cymru, ond mae eu heneidiau am byth gyda Wcráin a llais eu calon yn galw adref…lle mae’r goleuni.


Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

Ar y Ffram

Bri / Essence / Brí

Gorffennaf – Hydref 2023

Bri: Natur gynhenid neu ansawdd anhepgor rhywbeth
Essence: The intrinsic nature or indispensable quality of something
Brí: Nádúr intreach nó cáilíocht fíor-riachtanach do rud éigin

Gan bontio'r bwlch rhwng Celfyddyd Gain a Ffasiwn, mae Ríon Hannora yn creu celf gwisgadwy. Gydag amnaid i'r cyfnod baróc a graffiti trefol mae cyfosodiad yn aml trwy gydol ei chasgliadau. Mae’r weithred o gydweithio hefyd i’w chael yn aml yn ei gwaith ac nid yw’r arddangosyn hwn yn eithriad i hynny. Roedd dod â gwledydd cyfagos ynghyd drwy’r cyfuniad hwn o ffasiwn a chelfyddyd gain yn nod o’r cychwyn cyntaf ac felly, estynnodd Ríon allan at dri artist Cymreig a dau artist Gwyddelig i gydweithio ar y prosiect hwn; Ffion Evans, Aisling Phelan, Morgan Dowdell, Osian Efnisien ac Amelia Greham. Rhoddwyd dilledyn yr un i Evans, Phelan, Dowdell ac Efnisien, a wnaed gan Ríon yn ei stiwdio yn Nulyn i archwilio eu hymarfer eu hunain trwy ddefnyddio dillad. Rhoddwyd ychydig dros fis i bob artist wneud y cynfas gwag hwn o ddilledyn, yn rhywbeth arall yn gyfan gwbl. Trwy'r amser, creodd Amelia Greham y modelau lle mae'r dillad hyn yn cael eu harddangos.


Safle creu gofod anadlu gan Alec Shepley

SAFLE CELF

Cymdeithas Brydeinig Enamelwyr:

Nod ein cymdeithas yw hyrwyddo rhagoriaeth yng ngwaith enamel Prydeinig a gwaith enamelwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y wlad yma a thramor. Mae gan y gymdeithas aelodaeth eang, yn cynwys lefelau o allu o fyfyrwyr hyd at lefel proffesiynol. Wedi ei lleoli yn y D.U.mae gan y BSOE gysylltiadau rhyngwladol ac mae’n cynnig cyfleon arddangos, ysgoloriaethau, galeri ar lein, discownt gyda cwmnia, gweithdai a gweithgareddau ar gyfer yr aelodau. Ein nod yw hyrwyddo’r safonnau ychaf mewn dylunio cyfoes a gwneuthuriaeth ym mhob agwedd o’r gyfrwng unigol yma. EIN NOD YW CYSYLLTU, YSBRYDOLI A CHEFNOGI’R GYMDIETHAS ENAMEL BROFFESIYNOL.


Safle celf cywrain gyda gwahanol grochenwaith wedi arddangos ar fwrdd

Y WAL

Porth Annwn
Stephen Green

Rwy'n ystyried arlunio fel ffordd o weithio allan, deall a gwireddu syniadau yn weledol. Haniaethol yw fy ngwaith yn bennaf; ei fwriad yw cynrychioli fy meddyliau a'm syniadau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gweithio gyda chonfensiynau ffurfiol o luniadu, gan wireddu'r syniad trwy amrywiadau. Ar hyn o bryd fy syniadau yw dehongliadau o chwedlau Cymreig: y Mabinogion. Yn benodol straeon lle mae'r prif gymeriadau'n teithio i fyd cyfochrog (Annwn). Bwriad y delweddau yn yr arddangosfa hon yw awgrymu bylchau yn realiti ein byd lle mae modd teithio i fyd arall, cyfochrog.


Bri / Essence / Brí

DERBYNFA / ORIEL CAFFI

Roedd Prosiectau Llwybrau Celf yn canolbwyntio ar brofiadau celf o ansawdd uchel i bobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn, i ddatblygu eu sgiliau artistig ac i roi mewnwelediad dyfnach i ddiwylliant a chyfleoedd creadigol yng Nghymru. Diolch i Cyngor Celfyddydau Cymru am ariannu’r prosiect.


SAFLE CREU Stephen Green Porth Annwn

SAFLE CREU

Gofod Anadlu
Alec Shepley

Mae aer yn anweledig i raddau helaeth ac eto'n rhan annatod o'n bodolaeth. Mae'n symud yn rhydd ar draws ffiniau a thrwy gyrff, gan wrthsefyll ein hymdrechion i'w ddiffinio a'i gynnwys. Mae aer a amlygwyd gan y pandemig coronafirws yn ofod agos a rennir sy'n ein gwneud yn agored i haint. Mae'r aer a anadlwn yn ofod cyffredin ac yn locws ar gyfer fy chwilfrydedd a'm chwarae yn y preswyliad hwn, gan ei fod yn ymwneud â phopeth yn awr ac yn y dyfodol, anghydraddoldeb cymdeithasol, a chyfrifoldeb a rennir. Nod fy mhrosiectau celf pragmatig yw cysylltu â chymuned i ddod â haenau lluosog o brofiad at ei gilydd ac mae hyn yn amlygu ei hun yn fy ngwaith - geiriau, llun, gwrthrychau, ffilmiau, sain ac ati. Trwy’r ‘wybodaeth ofodol’ hon rwy’n anelu at ddarparu darnau sgwrsio. Rwy'n eich gwahodd i ddod i mewn, cymryd sedd ac ymlacio. Hyd yn oed cael gorwedd i lawr. A gwrando ar swn dy anadl dy hun Mwynhewch.


Safle celf gosodiad celf tiwbs gydag inc

SAFLE CELF

ARBROFOL
Ashley Cooke

22/07/23 - 02/09/23

Mae 'ARBROFOL' yn dod â pheintio a cherddoriaeth newydd gan yr artist gweledol a'r gitarydd byrfyfyr Ash Cooke ynghyd i gyflwyno profiad synhwyraidd mewn gofod lliwgar sy'n delio'n ddychmygus â'r ffordd y mae pobl yn darganfod ac yn ymgysylltu â chelf weledol haniaethol a cherddoriaeth arbrofol. Mae'r lluniau yn yr arddangosfa wedi'u henwi ar ôl mynyddoedd Dyffryn Ogwen. Er nad yw'r delweddau eu hunain yn ddarluniau uniongyrchol o dirluniau, maent yn adleisiau yn fwy mewnol o'r man lle mae Ash yn byw.


Safle celf gosodiad celf tiwbs gydag inc

Y Wal

Machlud i’r Wawr
Llinos Owen

07/07/23 – 28/08/23

Mae Llinos Owen yn artist tecstiliau celfyddyd cain yn wreiddiol o Ogledd Cymru on nawr yn byw a gweithio yn Llundain. Symudodd yr artist i Lundain yn 2017 i astydio Celfyddyd Gain: Peintio yn Ngholeg Celf Wimbledon (UAL). Ers graddio yn 2020, mae Llinos wedi datblygu ei hymarfer celf i fod yn seiliedig ar decstiliau ac wedi arddangos ei thapestriau gwaedog mewn gwahanol arddangosfeydd ogwmpas yr Deurnas Unedig ac Ewrop. Mae gwaith yr artist wedi cael ei arddangos yn y Saatchi Gallery yn Llundain yn sioe “Synthesis” gyda Delphian Gallery, yn arddangosfa “Let’s Talk About Textiles” yn y Other Art Fair 2022, yn ogystal â’i harddangosfa unawd cyntaf or enw “Thank Your Lucky Stars” yn Orleans House Gallery yn 2021. Yn ddiweddar, enwyd Llinos Owen fel un o “Rising Stars of 2022” gan Saatchi Art wrth iddi barhau i weithio yn ei stiwdio yn Llundain, gan greu tapestriau wedi ei hysbrydoli gan peintio gyda’i deunyddiau tescstiliau.


Safle celf gosodiad celf tiwbs gydag inc

SAFLE CELF

Anfarwolion
Ruth Jên Evans

03/06/23 - 15/07/23

Gwneuthurwraig brintiau sefydledig yw Ruth Jên sydd wedi arddangos yn helaeth yma yng Nghymru a thros y dwr. Yn gweithio o’i chartref yn Nhalybont ger Aberystwyth mae Ruth yn artist amlgyfrwng sy’n defnyddio amrywiaeth o brosesau argraffu.


SAFLE CREU utopias bach

Safle Creu / Y wal / Derbynfa

Gwahoddiadau Utopias Bach

03/06/23 - 05/07/23

Cydweithfa greadigol o ogledd Cymru ydi Utopias Bach, gyda chysylltiadau ledled y byd.
Ers cyfnod clo 2020, rydyn ni wedi bod yn ceisio darganfod ‘Beth ydi Utopias Bach, y pethau bychain sydd mewn un ffordd neu’r llall yn helpu i greu lle gwell ar gyfer pobl o bob math (dynol a mwy-na-dynol), yn enwedig y rheini sydd wedi eu heffeithio’n wael gan gyflwr y byd sydd ohoni?’ Trwy ail-feddwl ‘Utopia’ fel rhywbeth wedi’i wreiddio mewn lle, rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n greadigol i archwilio chwyldroadau ar raddfa fach, gan greu newid cadarnhaol yn ein cymdeithas ac wedi’i ffocysu ar raddfa lle mae’n bosib i ni gael dylanwad.


Growing Pains

Y Ffram

Rachael Smith

Growing Pains

25/04/23 – Gorffenaf 2023

Mae Growing Pains yn portreadu fy nhaith barhaus o gyn-artist trapîs, i artist anabl. Fe wnaeth fy mhrofiadau o anabledd fy ngadael i deimlo fel fy mod yn hongian, yn anghyfforddus ac ar wahân. Er yn gwthio cyfyngiadau, yn y pen draw mae wedi fy ysgogi i fabwysiadu perspectifau gwahanol. Mae'r profiad yma’n cael ei ddarlunio gan y cerfluniau ffigurol sydd yn hongian wyneb i waered er mwyn adlewyrchu y brwydro a’r dryswch a brofir gan gynifer ohonom. Rwyf wedi profi heriau o'r fath, gall y rhain ddyfnhau ein dealltwriaeth o fywyd, ein hunain a thanio angerdd ynom. Rwy'n gobeithio uniaethu ag eraill a’u hysbrydoli, nad yw bywyd yn gorffen gyda diagnosis neu unigedd, ond yn hytrach yn trawsnewid. Mae gwead amrwd y corff cerameg, ynghyd â chynildeb breichiau coll y ffigurau yn cynrychioli “anabledd anweledig” na welir yn aml ar yr olwg gyntaf, ond gyda mwy o graffu maent yn dod i’r amlwg, gan ddangos mai persbectif yn unig yw perffeithrwydd. Ar ben y ffigwr mae blodyn newydd yn agor, gan roi ymdeimlad o flodeuo, yn llawn angerdd, yn cydnabod rhyfeddodau a harddwch newydd yn y byd.


Growing Pains

SAFLE CELF

Cyfoes Menai Contemporary

22.04.23 – 27.05.23

Gwaith gan fyfyrwyr ail flwyddyn o'r cyrsiau BA Celfyddyd Gain a Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio.


SAFLE CREUT R O I I I A Residency and Exhibition

SAFLE CREU

Preswyliad ac Arddangosfa T R O I I I <

17/04/23 - 28/05/23

Grŵp celf cydweithredol a ffurfiwyd yn 2021 gan yr artistiaid Rita Ann, Brian Baker ac Anthony Ynohtna.

Ffurfiwyd TROIII<A drwy ddiddordebau cilyddol a phrofiadau a rennir, a sylweddolwyd yn ystod eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Mae TROIII<A yn gweithio'n unigol ac ar y cyd mewn cyfryngau a ffurfiau eang. Trwy ymagwedd amlddisgyblaethol at gelf gyfoes, mae TROIII<A yn creu gwaith wedi'i ybsbrydoli a'i ddylanwadu'n fawr gan y berthynas rhwng iechyd meddwl, lles ac ymarferion celf.
Mae pob artist yn dod â'u profiadau, eu dulliau a'u saffbwyntiau unigol i themâu o'r fath, gan greu gweithiau hynod o bersonol ond hygyrch.

Mae Bylchu’n brosiect lle mae’r artistiaid yn bwriadu pontio ar draws deuaidd fel iselder a lles, symudiad a llonyddwch, materoldeb ac ysbrydolrwydd, meddwl a chorff. Maent yn defnyddio arfer cydweithio i archwilio defnyddiau a ffurfiau, gan gynrychioli eu profiadau ond hefyd yn cynnig naratifau newydd a gofodau ar gyfer myfyrio ar y cyd.


Growing Pains

Y WAL

Kerry Baldry

Personal Codes and Unknown Worlds

21/04/23 - 29/05/23

Kerry Baldry is a multi-disciplinary artist. The paintings showing on Y Wal have been inspired by the landscape around her studio in Nantlle, North Wales.
She is interested in the process of painting, the way different colours and marks have the ability to convey emotions. She paints, removes, scrapes away multiple layers, adding paint and continually reworking. This process allows her to combine both control and spontaneity to convey intense inner landscapes through the act of improvisation and intuition, juxtaposing colour and texture into a wide variety of forms and emotional energy.


Oriel Caffi

Oriel Caffi

Gwen Owen
07/03/23 – 15/05/23

Dod o hyd i gemau cudd

I mi, mae’r dirwedd yn ddeniadol ac yn ysbrydoledig; mae'n newid ar bob eiliad, tymheredd, gwynt, lliw golau, gwead, natur a sain. Yma rwy'n dod o hyd i egni yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn ystod y pandemig, roeddwn yn gwerthfawrogi fy nhirwedd mwy fyth ac yn cyfrif fy hun yn ffodus fy mod wedi gallu dianc yn aml am dro ar hyd hen drac rheilffordd sy'n rhedeg trwy goed a thir fferm. Daw fy nghorff o weithiau o'r lle creadigol enaid hwn. Nid ydynt yn ymwneud â pherffeithrwydd, cymhariaeth, neu ofn ond un o hunan-ddarganfyddiad. Maent yn ymwneud ag arbrofi, chwarae, gwneud marciau ystumiol, mynd gyda'r llif, dwyn atgofion, arsylwadau a dal eiliadau a thamaid o amser.

Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23 ‘Aildanio’

Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23 ‘Aildanio’

03/03/23 - 08/04/23

Bydd ‘Aildanio’, yr arddangosfa Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn teithio’n genedlaethol ar draws chwe oriel yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’.

Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau.

Bydd capsiynau, BSLI a disgrifiadau sain ar gael.


Cywrain

Siop Cywrain

Adel Kay, Ann Catrin Evans, Crefftarian, EllyMental, Julie Mellor & Osian Efnisien
Gemwaith a’r Broses

22/09/22 - 28/01/23

Mae Galeri yn dod a chasgliad cyfoethog o waith 6 gwneuthurwr gemwaith ynghyd, gan arddangos eu creadigrwydd a'r broses unigryw o greu'r gemwaith. Mae'r arddangosfa yma yn archwilio'r berthynas sydd gan yr artistiaid â'u proses o greu a hefyd yn rhoi cipolwg ar eu hymarfer trwy eu brasluniau a lluniau ysbrydoledig, hoffer a’u harbrofion. Archwiliwch feddyliau'r artistiaid a dathlwch sgiliau, creadigrwydd a chrefftwaith y gemwaith anhygoel yma.

Arddangosfa Agored 2022Arddangosfa Agored 2022

Mae’r arddangosfa Agored yn cynnwys dros 60 o weithiau celf gan artistiaid ardraws Gymru a’r DU. Mae'r arddangosfa'n dathlu ystod eang o beintio, lluniadu, print, ffotograffiaeth, tecstilau, cerflunwaith a ffilm.

Ymhlith y beirniaid eleni roedd yr artist Catrin Williams, y Ffotograffydd Tim Williams, Cyfarwyddwr Creadigol Galeri Naomi Saunders a Chydlynydd Celf Galeri Ffion Evans.

Gwobr y beirniaid £1000 – Shauna Taylor
Canmoliaeth Uchel £400 – Anthony Ynohtna
Gwobr Dewis y Bobl £250 – Dewch i Galeri Caernarfon i bleidleisio dros eich hoff waith celf


Oriel Caffi

DocCymru: Prosiect Brexit

Rhodri Ellis-Jones, Glenn Edwards, Roger Tiley & Kristina Banholzer

Mae Doc Cymru yn brosiect cydweithredol cyffrous sy’n cynnwys pedwar ffotografydd profiadol sydd wedi dod ynghyd i ddogfennau’r effaith y bydd ‘Brexit’ yn cael ar Gymru. Cip-olwg ar storiau a diwydiannau difyr. Sgwni be ddigwyddith yn y blynyddoedd i ddod? Llunia i ddangos i’r bobl y gwir effaith. Dyma gwaith y ffotograffwyr hyd yn hyn, mae’r brosiect yma yn cael ei gwblhau erbyn 2024 lle bydd arddangosfa yn Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn ogystal a lleoliadau eraill.


Buddug HumphreysSafle Celf

Buddug Humphreys

Hyfrydle
28/10/22 – 26/11/22

Mae gwaith Buddug yn yr arddangosfa yn ffrwyth ei chrwydro drwy sawl ardal yng Nghymru ac mae’n adlewyrchiad o’r hyn y mae’n ei deimlo am nifer o’i hoff leoedd a’i hoff olygfeydd.


deniseY Wal

Katherine Fiona Jones

Gwagle
12.10.22 – 21.11.22

Yn y llefydd rhwng iaith, phan dyni’n theimlon galar arol colliad, yr unig beth sydd geno ni yw ein corffau ac amser. Mae Gwagle’n cheisio siarad iaith galar, yn ddefnyddio haniaeth a ystym automatic I creu theimlad o cyfyngder a hedd.


deniseSafle Creu

Dottie-may Aston & Jonathan Retallick

Antagonym
15.10.22 – 19.11.22

Antagonym - Lle mae dau gyferbyniad yn cydfodoli. Mae’r arddangosfa hon yn archwilio uno’r llinell rhwng ffigurol a haniaethol ac uno’r cyflwr breuddwydiol y mae gwaith Jonathan Retallick a Dottie-may Aston yn myfyrio arno. Mae canolbwynt y sioe Antagonym yn gydweithrediad cerfluniol rhwng y ddau artist. Wedi'i wneud ar y safle am dair wythnos cafodd Antagonym ei drin fel cyfle i hybu creadigrwydd a chynefindra â'r cyfryngau.


Safle Celf

Paul Eastwood

Lleferydd Llenedig
10/09/22 - 15/10/22

Yn Lleferydd Llenedig, mae Paul Eastwood yn arddangos cyfres newydd o dapestrïau sy'n dwyn i gof adfeilion pensaernïaeth ddychmygol. Mae blociau carreg cofebol wedi'u dadosod yn cael eu hailstocio i ffurfio patrymau newydd. Mae rhai yn dangos darnau o arysgrifau Cymraeg. Mae eu harwynebau hindreuliedig yn cystadlu am sylw gan eiddew yn ymledu.


Safle Creu

Residency

Jonathan & Dottie-may

Antagonym
21/09/22 - 08/10/22

Antagonym is a three-week collaborative residency between Dottie-may Aston and Jonathan Retallick. Antagonyms are words with two opposite meanings. The couple feel this accurately describes this project as they approach it from opposing creative perspectives. Their opposing figurative and abstract practices have been brought together to challenge both artists to create work powered by their own inspirations. It’s a synergy of ideas as well as an invitation to showcase their creativity and actively engage with visitors. The duo wishes to start that creative conversation while working intuitively together for the first time on a sculpture.


deniseY Wal

Denise Laura Baker

Gweithredoedd, Nid Geiriau
31/08/22 - 10/10/22

Denise Laura Baker is an award-winning photojournalist and documentary photographer focusing on environmental and social issues, climate change, activism, and community. Her photographic and creative work draws on influences from her career as a visual artist, and her previous qualitative psychology career where she interviewed and collected the stories of the people with whom she worked. She continues to collect and tell stories though her photography, matching them with recorded or written dialogue and so empowering those with whom she collaborates.



Safle Celf

Leigh Sinclair + Marian Haf

Y Llanw Distaw
11/06/22 – 23/07/22

Mae'r arfordir i lawer yn lleoliad i archwilio ac i ddianc. Gyda hyn mewn golwg mae Leigh Sinclair a Marian Haf wedi defnyddio glan y môr fel cymorth i wthio harferion nhw mewn ffyrdd cydweithredol chwareus.

Mae'r proses arbrofi wedi bod yn sail i'r curadu yn ogystal â chwblhau'r gwaith. Darparodd Galeri'r rhyddid iddynt i dorri'n rhydd o 'hongian' arferol, traddodiadol. Gan ganiatau Leigh a Marian i ddod ag elfen o'r chwareusrwydd, i'w fwynhau gan ymwelwyr yn yr un goleuni

 

Y Wal

Andrew Smith

01/06/22 – 18/07/22

Fy nod cyffredinol yw dadadeiladu’n barhaus y dull presennol er mwyn creu iaith beintio haniaethol sy’n cwmpasu’r syniad o ‘dirlun’. Yn ystod cyfnodau preswyl byr neu rai hwy mae amser i gymathu'r amgylchoedd a'r cyd-destun, felly mae'r gwaith o reidrwydd yn newid ac yn esblygu yn dibynnu ar y lle; mae'r dull yn archwilio ffisiognomi lleoliad.

 

Safle Celf

Cofis Dre & Co

XVII

30.04.22 – 04.06.22

Ann Lawrence, Chris Upmalis, Ellie Hennessey, Gisselle Mayorga, Julian O'Dwyer, Kar Rowson, Lisa Ann Williams, Lucy Ann Jones, Meg Jôs, Morgan Wyn, Petra Goetz, Rhiannon Fograty-Wilkinson, Shauna Taylor, Shirley Fahy, Tara Louise, Zack Robinson

Mae ‘Cofis Dre & Co’ yn arddangosfa sy’n cyflwyno 16 myfyriwr cwrs gradd Celfyddydau Cain Coleg Menai ac yn rhoi cyfle iddynt archwilio themâu, syniadau a diddordebau creadigol personol drwy amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys: darlunio, peintio, cerflunio, gwaith argraffu a gweithgaredd aml-gyfryngol.

Safle Celf

Cywrain

Siop Pop-up Codi’r Bar
08/04/22 – 11/06/22

Mae Codi’r Bar yn gynllun ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 sydd eisiau datblgyu eu sgiliau Celf gweledol. Mae’n cynnwys cymysgedd o weithdai celfyddydol creadigol a Hyfforddiant proffesiynol gyda’r bwriad o baratoi ein pobl ifanc ar gyfer gyrfa yn y byd creadigol. Drwy weithio gyda artistiaid lleol Heledd Owen a Menai Rowlands oedd y pobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddylunio a chreu nwyddau all gael eu gwerthu. Gweithdai creadigol i ddysgu a datblygu sgiliau celfyddydol ac yn derbyn hyfforddiant ar ddylunio, creu, marchnata a brandio.

Pobol ifanc creadigol yn y Siop pop-up yw Gwyndy, Lacey, Lili, Mia, Skliee, twmw, Mabon a Ithel

Mae’r prosiect hwn yn cael ei weinyddu drwy Galeri Caernarfon ar y cyd gyda Oriel Môn. Mae’r cynllun ar gael ar gyfer pobl ifanc Gwynedd a Môn sydd yn gymwys. Arianwyd y prosiect gan Galeri Caernarfon, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Safle Celf

Y Wal

Derek Crawford

Plastigrwydd
20/04/22 – 30/05/22

Crëwyd y delweddau hyn i ddechrau fel ffotogramau, proses ystafell dywyll syml lle mae'r testunau'n cael eu gosod yn uniongyrchol ar bapurau ffotograffig, yn agored i olau wedi'i daflunio o helaethwr, ac yna'n cael ei brosesu mewn ffotocemeg lliw safonol. Cafodd y printiau a ddeilliodd o hynny eu sganio’n ddetholus ar gydraniad uchel a’u helaethu’n ddigidol, i’w cyflwyno fel printiau inkjet pigment archifol ar raddfa oriel.

Safle Celf

Safle Celf

Cysur
Haf Weighton

12/03/22 – 23/04/22

Tua amser y pandemig dechreuodd pobl edrych o'u cwmpas a myfyrio ar eu hamgylchedd domestig mewn ffordd wahanol. Mae Haf Weighton yn fwy adnabyddus am ei ffasadau o adeiladau gan ddefnyddio ei phrint, paent a phwyth. Ond ar gyfer yr arddangosfa unigol hon yn Galeri mae hi wedi edrych ar fywyd y tu ôl i'r drysau.

Y Wal

Y Wal

Be sydd ar dy feddwl?
Menai Rowlands

02/03/22 – 18/04/22

 

Mae’r gwaith yn archwilio themâu hunaniaeth a maddeuant ein canfyddiadau unigol o’r byd o’n cwmpas. Mae’n hyfryd rwan dychwelyd a myfyrio ar y darluniau cyntaf hyn, ac yn rhyfedd o ryfedd gweld sut mae gweithredoedd a syniadau bach yn tyfu ac yn datblygu ac yn cysylltu dros amser. Maent hefyd yn archwilio'r syniad bod ein hunaniaeth wedi'i seilio ar atgofion, sy'n aml yn cael eu gwyrdroi a'u trin. Ond trwy greadigrwydd a chyfathrebu gallwn ddod o hyd i dir cyffredin o gysylltiad ac empathi tuag at ein gilydd.

 

Safle CREU

Safle CREU

INC

Anthony Harrison, Connor Williams, Courtnie Savannah, Hari Cennin Roberts, Kev Curtis, Kirsty Reid, Nika Petelinek, Sophie Beddow, Thomas Jones

gan Picsil8

 

Picsil8 yw cydweithfa ffotograffiaeth sy’n canolbwyntio ar syniadau mynegiant unigol. Mae’r grŵp yn cynnwys nifer o ddisgyblaethau o sgiliau ystafell dywyll a ffilm draddodiadol i dechnolegau digidol arloesol sy’n seiliedig ar lens.

Cywrain

PWYTH

Llio James, Lowri Drakley, Anna Pritchard, Samantha Jones

05/02/22 – 31/03/22

 

Mae PWYTH yn ddathlu 4 artist tecstiliau o Gymru sydd yn gweithio gyda technegau traddodiadol ond yn creu blancedi cyfoes creadigol. Mae Anna Pritchard o Wynedd gyda gysylltiad dwfn â’r tir, wedi cael ei fagu ar fferm laeth a bod yn un o’r teulu ffermio hynaf sy’n dal i fyw yn Nyffryn Ogwen. Mae hyn yn dylanwadu'n aruthrol ar dyluniadau ei ffabrigau. Gwelir ei angerdd am liwiau, patrymau a gweadau yn ei gwyltiau. Mae’r syniad o barhau â thraddodiadau hynafol y melinau gwlân Cymreig, gwehyddu a gwau yn bwysig i ddi. Daw ysbrydoliaeth i’r gwaith arbennig Llio James o’r tirlun morol o cwmpas Llio; ymchwilio lliw a phatrwm banneri morwrol, ynghyd ag astudio yr hen batrymau gwehyddu o’n brethynnau traddodiadol. Daw’r gwaith yn ddwfn o cefndir a hanes Llio ac o darddiad y diwydiant gwlan a’i waddol i ni heddiw. Mae Lowri Drakley o Ynys Mon yn wneuthurwr cwiltiau ac arlunydd cyfoes yn defnyddio llifyn botanegol gyda’r cynhwysion a gasglwyd o amgylch ei chartref. Mae’n dilyn ei gweledigaeth ac yn ymateb i’w breuddwyd a’i hangen i ailgysylltu gyda’r byd naturiol, drwy fforio natur a darganfod ei hunaniaeth amgylcheddol. Gwneuthurwr cwiltiau yw Samantha Jones gan ddefnyddio dulliau traddodiadol i greu cwiltiau cyfoes. Mae Samantha yn credu’n gryf mewn gwneuthurwyr yn rhannu eu sgiliau ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn treftadaeth a’r hanes hirsefydlog o wneud cwiltiau yng Nghymru.

 

Safle Celf

Sarah Ryder

Traed. Ymennydd. Ac yn ôl eto.

25/01/22 – 05/03/22

Ers dros 20 mlynedd mae Ryder wedi gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau i arbrofi cysyniadau estynedig peintio, yn aml yn gwneud gweithiau 2D sy'n trawsnewid yn 3D. Wedi’u tanategu gan syniadau o amherffeithrwydd, amseroldeb, strwythur systemau, a chydbwysedd anhrefn a rheolaeth. Mae prosesau Ryder yn amrywio rhwng chwareus a myfyrgar – mae’r ddau gyflwr yn gyfartal ac yn ddibynnol ar y llall.

Y Wal

Mia Roberts

Nath hi gadael fi chwarae’r organ

20/01/22 – 28/02/22

@m.a.roberts_

Y bwriad o fewn gwaith Mia yw cyfuno llu o naratif personol ac arsylwi yn un cyfansoddiad. Mae hyn yn arwain at ddelwedd gyfun sydd yn y pen draw yn rhoi'r pŵer i'r gwyliwr ddiffinio'r hyn y mae'r darn dan sylw yn ei olygu iddyn nhw. Mae hefyd yn caniatáu rhyddhau profiadau personol yn isganfyddol o fewn y gwaith heb ddylanwadu ar arsylwyr sydd â thueddiadau ideolegol amlwg. Er bod yr arfer yn hynod bersonol, mae'n bwysig bod y gwyliwr yn llunio ei naratif a'i gasgliad ei hun wrth wylio.

Mae Mia yn artist traws-fenywaidd sy’n gweithio yn rhanbarth Gogledd Cymru ac mae ei gwaith yn ymwneud yn bennaf â micro-ddiwylliannau, brogarwch, prosiectau cymdeithasol, rhywioldeb, gwrywdod, iechyd meddwl a chaethiwed.

Safle CREU

LHBT+ GISDA X Galeri yn cyflwyno

Bydysawd Moesol

05/02/22 – 28/02/22

Artistiaid Gwadd:

Anthony Shapland

Eden Grant Dodd

Jasper Dawson clough

Katherine Fiona Jones

Lee green

Mia Roberts

MYTHSNTITS

Arddangosfa Agored 2021

04.12.21 - 15.01.22

noddir gan Gwyn a Mary Owen

Mae arddangosfa Agored blynyddol Galeri yn gyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, myfyriwr neu sy’n creu celf fel diddordeb i ymgeisio i fod yn rhan o arddangosfa flynyddol yn Galeri.

Drwy garedigrwydd noddwyr y gystadleuaeth, Gwyn a Mary Owen, mae gwobrau ariannol hael ar gael:
£1,000 dewis y beirniaid
£400 cymeradwyaeth uchel
£250 dewis y bobl

Dethol gan: Alan Whitfield, Darren Hughes, Rebecca Hardy-Griffith a Naomi Saunders

021221-logo-agored-2021

Alys Gwynedd

Ashley Cooke

Booker Skelding

Carrie Francis

Carwyn Jones

Catrin Gwilym

Catrin Menai

Cerys Knighton

Chris Higson

Dane Briscoe

David Garner

Diana Williams

Dottie-may Aston

Ella Louise Jones

Gareth Berwyn

Jenny Murray

João Saramago

Laura Ducker

Leigh Sinclair

Lena Aires

Lesley James

Lora Gwyneth

Lowri Drakely

Lleucu Non

Llinos Owen

Llyr Evans

Manon Awst

Mared Parry

Marian Haf

Owain McGilvary

Paddy Faulker

Paul Vining

Phillip Jones

Raji Salan

Roger Lougher

Ruth Jen Evans

Rhys Aneurin

Sam Hayes

Tara Dean

Verity Pulford

Y WAL

Gwen Vaughan

Rhywbeth a Dim Byd
15/10/21 – 27/11/21

Arddangosfa newydd gan artist o Sir Fôn o baentiadau haniaethol. Mae un gyfres o waith celf Gwen yn archwilio democratiaeth y grid fel ffynhonnell ddigynnwrf, wrth chwarae gyda lliw a drysau. Mae grŵp arall yn defnyddio patrymau o wahanol feysydd - nodiant cerddoriaeth, geometreg, a phrosesau siawns.

https://www.gwen-vaughan.co.uk/

Rhi Moxon


Safle Celf

Nerys Jones

Dros Ben Llestri
23/10/21 – 27/11/21

Yn draddodiadol trwy decstilau roedd merched yn mynegi ei hunain trwy wnïo a gwneud brodwaith i greu pethau defnyddiol i’r cartref. Ond mae’r materion sy’n bwysig i ferched heddiw yn wahanol iawn i’n Neiniau. Mae gwaith celf Nerys yn ceisio edrych ar y materion yma trwy creu ymateb personol. Mae’r gwaith yn adlewyrchiad o magwriaeth Nerys yn cefn gwlad cymry ac hefyd y pethau bach ddibwys , neges siopa ar gefn amlen , y ffedog ar gefn drws ,dywediadau yn y gymraeg. Patrymau brethyn cymraeg a delweddau o celfi’r gegin.

Mae hiwmor i’r gwaith hefyd, mae Nerys yn creu darnau sydd ddim yn ddefnyddiol, er enghraifft y ffedogau sydd wedi eu gwneud o ffyrc siop chips a’r defnydd ironig or dywediad “ celf orau yn y byd: gwraig dda.“ Nid yw’r llieiniau bwrdd yn ymarferol, er enghraifft mae’r darn sydd wedi ei addurno gyda beads man yn dynwared marc wedi ei losgi gan haearn smwddio. Maen’t hefyd yn ceisio dynwared y syniad o “bottom drawer”, sef y casgliad o gelf a defnyddiau byddai merched yn eu casglu er mwyn paratoi at eu bywydau priodasol .

Dywedir fod pobl yn gwario llai na 6 eiliad yn edrych ar waith celf mewn arddangosfa. Mae y ffordd mae pobl yn edrych ac ymateb i’r gwaith yn bwysig i Nerys, eu bod yn sylwi ar y gwrthrychau cudd, yn darllen y dywediadau sydd wedi eu brodio ar y darnau ac yn gwerthfawrogi y gwaith sydd yn y pwythi llaw a pheiriant.

Instagram: @nerysjonescelf


Safle Celf

Lisa Carter Grist

Llyfr Ysgyfaint, Golygfeydd a Brasluniau
04.09.21 – 16.10.21

Lisa Carter

Cyfres o waith newydd ar gynfas a bwrdd a phaentiadau ar bapur gyda darnau dethol o destun. Mae paentiadau Lisa Carter Grist yn datgelu awgrymiadau o olygfeydd, gwylltlun ac emosiynau o fewn eu harwyneb haniaethol ymddangosiadol. Cydnabyddir cyfeiriadau cyfeiriol at dirweddau dychmygol, llwyfannau, fframiau ffenestri, ffigurau a gwrthrychau yn ystod y broses o baentio.

lisacartergrist.com



Y Wal

Rhi Moxon
Dragonfly Diaries
04.09.21 – 14.10.21


Casgliad o waith gan y darlunydd, artist graffig a gwneuthurwr print – Rhi Moxon.

rhimoxon.com

Rhi Moxon


 


I'r Byw