galeri
Synwyriwm

Amser i Siarad x Galeri: Synwyriwm


Galwad am Artistiaid a Hwyluswyr Creadigol – Synwyriwm

Prosiect Celfyddydau, Iechyd a Llesiant gydag Amser i Siarad, Galeri Caernarfon a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd.


Ynglŷn â Synwyriwm

Mae Synwyriwm (“sensorium”) yn adeiladu ar brosiect peilot llwyddiannus ac yn symud i gyfnod newydd o greadigrwydd, natur, llesiant, a chysylltiad cymunedol. Hoffem annog ffocws cryf ar y synhwyrau - mae ymgysylltu synhwyraidd ymwybodol â thirwedd, deunyddiau a sain yn cefnogi sylfaenu, gwydnwch ac adferiad iechyd meddwl. Anogir cynnal pob sesiwn yn yr awyr agored er mwyn dyfnhau perthynas cyfranogwyr â'r amgylchedd naturiol.


Bydd cyfranogwyr sy'n profi problemau iechyd meddwl cymedrol yn gweithio ochr yn ochr ag artistiaid mewn cyfres o weithdai cydweithredol sy’n canolbwyntio ar y synhwyrau, wedi'u hysbrydoli gan erddi, tirwedd a threftadaeth Plas Newydd.


Mae llesiant yr artistiaid wrth wraidd y prosiect. Bydd cyfres o ddiwrnodau hyfforddi a datblygu yn helpu’r artistiaid i ymgorffori dulliau sy’n canolbwyntio ar lesiant yn eu hymarfer, gyda digon o gyfleoedd i rannu sgiliau a dysgu gyda’i gilydd.


Bydd y prosiect yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda dwy arddangosfa deithiol gyhoeddus yn Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, gan ddathlu lleisiau cyfranogwyr a herio stigma o gwmpas iechyd meddwl.


Manylion:

  • Rydym yn chwilio am unigolion empathig a chreadigol (unrhyw ffurf gelf) i gynnal ac arwain gweithdai, ac mae’n hanfodol gallu gweithio’n gydweithredol â chyfranogwyr, gan roi gwerth ar y broses yn hytrach na’r cynnyrch terfynol.
  • Lleoliad – Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, Ynys Môn
  • Ffi - £300 y gweithdy (diwrnod llawn)
  • Bydd angen i chi fod ar gael i hwyluso gweithdai rhwng Mai - Tachwedd 2026
  • Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer taith Plas Newydd ar Fawrth 27ain.
  • Bydd angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg. (Rydym yn cefnogi dysgwyr Cymraeg).

Dyddiad cau: Dydd Iau 12fed Mawrth am 10pm


I fynegi diddordeb, cwblhewch y ffurflen hon: Synwyriwm | Galwad Agored | Open Call – Fill in form


Dyddiadau allweddol

Gweithgaredd Dyddiad Bras
Taith Plas Newydd Mawrth 27
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) – hyfforddiant am ddim gwerth £160 Ebrill 16 a 17
Hyfforddiant ASIST – hyfforddiant am ddim gwerth £200 Ebrill 23 a 24

Mynediad a Chymorth

Rydym wedi ymrwymo i wneud y cyfle hwn mor hygyrch â phosibl. Os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat amgen neu os hoffech drafod unrhyw ofynion mynediad cyn gwneud cais, cysylltwch â ni dros e-bost: Ffion.evans@galericaernarfon.com


Amser i Siarad (AiS)

Elusen iechyd meddwl grassroots yw AiS sy’n cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc ar draws Ynys Môn a Gwynedd. Wedi’i leoli yng Nghaernarfon, mae AiS yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys un i un, grwpiau therapiwtig a hyfforddiant ar draws y ddwy sir.


Galeri Caernarfon

Mae Galeri Caernarfon yn ganolfan gelfyddydau gymunedol ddielw sy’n cynnig theatr, sinema, unedau gwaith, a gofodau arddangos. Adlewyrchir ein gweledigaeth, "Creu Cyfoeth Cymunedol Cynaliadwy" yn ein rhaglenni artistig amrywiol, gan gynnwys theatr, ffilm, arddangosfeydd, cerddoriaeth, a gweithdai.



Synwyriwm: Ticky Lowe



Synwyriwm: Ella Louise Jones



Synwyriwm: Ffion Pritchard


Synwyriwm: Glyn Price


Synwyriwm: Sarah Zyborska