galeri


SYMUD

image

SYMUD Sesiynau symud a lles i BAWB!

Mae pobl yn dawnsio am bob math o resymau. Mae llawer ohonom sy'n dawnsio yn dweud ei fod yn cyfoethogi ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd. Allwn ni ddim bob amser ddod o hyd i'r geiriau i fynegi'r union deimlad penodol hwnnw sy'n codi ynom wrth i ni symud, ond yn aml iawn mae pobl yn defnyddio'r gair 'rhyddid'. Efallai mai dyna'r disgrifiad agosaf o bwrpas y sesiynau yma. Y bwriad yw deffro a chysylltu â’r corff mewn awyrgylch hwyl ac anffurfiol, a ffeindio rhyddhad yn ein cyrff a’n dychymyg.

Mae'r sesiwn hon yn addas i bawb o bob oed a gallu - i'r rhai egnïol a’r rhai sy'n gyfyngedig yn eu gallu i symud, sydd â phroblemau gyda phoen, neu'n gwella ar ôl salwch. Ymunwch efo ni am fore o hwyl a rhyddid!

16+

10:30 - Dydd Gwener, 26 Ebrill Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 3 Mai Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 10 Mai Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 17 Mai Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 24 Mai Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 7 Mehefin Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 14 Mehefin Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 21 Mehefin Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 5 Gorffennaf Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 12 Gorffennaf Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 19 Gorffennaf Tocynnau

10:30 - Dydd Gwener, 26 Gorffennaf Tocynnau