galeri


Côr Ieuenctid Lleisiau Llawen (7-16 oed)

image

Cangen ieuenctid o gôr anhygoel Lleisiau Llawen i bobl ifanc rhwng 7 ac 16 mlwydd oed. 

Mae Côr Ieuenctid Lleisiau Llawen yn gwneud mwy na dim ond canu! Mae'r côr yn cyfuno iaith lafar Cymraeg a Saesneg gyda iaith arwyddo Makaton er mwyn cynnwys pawb yn eu ymarferion a'u  perfformiadau. 

Mae'r sesiynau ymlaen ar ddyddiauMawrtham5yhyn ein stiwdio hygyrch. 

Mae'r côr oedolion wedi gweld llwyddiant mawr yn perfformio mewn digwyddiadau mawr yng Nghymru fel yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan a Gwyl Fwyd Caernarfon, yn ogystal ag ar y teledu ar raglenni megis Y 'Sgubor Flodau, Canu gyda Fy Arwr, a Cais Quinnell, a rydym yn gyffrous iawn i ymestyn y cyfle arbennig yma i blant yr ardal hefyd!
 
Felly, dewch yn llu! Mae croeso mawr i pob plentyn yng Nghôr Ieuenctid Lleisiau Llawen.

£3 y sesiwn. 

17:00 - Dydd Mawrth, 7 Mai Tocynnau