galeri


Fleur De Lys + Ciwb

image

Mae Fleur de Lys bellach wedi bod efo'i gilydd ers bron i ddegawd ac wedi profi llwyddiant aruthrol ar hyd y blynyddoedd. Aelodau'r band yw Rhys, Huw, Carwyn a Siôn ac mae'r band o Fôn yn anelu i ychwanegu at eu rhestr hir o ganeuon poblogaidd wrth ryddhau eu hail albwm yng Ngwanwyn 2023. Gyda'u halawon cofiadwy a riffiau bachog, mae Fleur de Lys wedi perfformio ar draws hyd a lled Cymru ac yn bwriadu parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf. 

Ar ôl i Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams weithio ar wahanol ganeuon a theme tunes ar y we fel ffordd o gadw’n ddiddan yn ystod y cyfnod clo, daeth y cynnig gan Lŵp i recordio cover o unrhyw gân Gymraeg ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Recordiwyd Smo Fi Ishe Mynd gyda Malan fel artist gwadd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac yn dilyn yr ymateb a gafwyd, dyma benderfynu ei rhyddhau. Yna, daethant at ei gilydd yn y cnawd am y tro cyntaf, i weithio ar albym o ganeuon o archif Sain, gydag artist gwadd gwahanol i bob cân. Recordiwyd yr albym mewn 5 diwrnod yn Stiwdio Sain fis Mai 2021, a rhyddhawyd “Wyt Ti’n Meddwl Bod O Wedi Darfod?” fis Gorffennaf 2021.

Gig sefyll

Drysau @ 19:00 gyda'r band cyntaf ymlaen @ 19:30

Canllaw oed: 14+ (gydag oedolyn), 16+ (heb oedolyn)

19:30 - Dydd Gwener, 3 Mai Tocynnau