Dyma brosiect newydd sydd yn cael ei reoli a’i arwain gan Galeri Caernarfon Cyf. Y cysyniad yn syml yw i roi cyfle arloesol i'r gymuned gyfan gofnodi ei hunaniaeth unigryw yng ngofodau a ffabric adeiladwaith tref Caernarfon a chyfle i glywed lleisiau sydd efallai heb eu clywed o’r blaen….
Mae ein hanes wedi cael ei adrodd gan eraill ac mae hwn yn gyfle i gyfleu sut rydym ni yn gweld ein hunain mewn ffordd gweladwy, arloesol ac yn wahanol iawn. Nid yn unig edrych nol ar y gorffennol ond bod yn hyderus mewn hunaniaeth cynwysiedig ag arloesol wrth ddychmygu'r dyfodol. Mae cyfle i gynnig nifer o wahanol math o ymyrraeth sy'n cyffwrdd a:
Ar yr un pryd, mi fydd y prosiect yn gwella edrychiad a chodi ansawdd amgylcheddol y dref a chyflwyno golau, gwyrddni a natur i ofodau llwm, llwyd sydd wedi’u hesgeluso a’u anghofio.
Ein bwriad wrth ddatblygu Canfas yw cynnwys gofodau gwag ar hyd a lled y dref – nid dim ond canolbwyntio ar ganol y dref, ond hefyd y cymunedau/stadau lle mae ein trigolion yn byw.
Mae'r prosiect yn clymu adfywio hefo'r celfyddydau; canol y dref gyda'r ystadau tai; artistiaid llawrydd gyda'r gymuned a hunaniaeth hefo'r amgylchedd.
Mae dau brosiect ar ffurf peilot (gyda diolch i Arloesi Gwynedd Wledig ac ADRA am gefnogi) wrthi yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd:
Bro Seiont, Caernarfon smewn partneriaeth â ADRA
Murlun Ellen Edwards mewn partneriaeth â Arloesi Gwynedd Wledig a gyda diolch i Gyngor Gwynedd am y caniatad i’w osod ar faes parcio Doc Victoria
Y gobaith dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yw gallu datblygu’r prosiect ymhellach – fydd yn cynnig cyfleoedd i artistiaid a’r gymuned fod yn ran ganolig o’r broses ac i drawsnewid y gofodau llwm a chyflwyno fflach o liw, ysbrydoliaeth a balchder cymunedol.
Ar ochr maes parcio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, mae rhywbeth wedi ymddangos i ddod a lliw a diddordeb i’r wal concrit llwyd ‘da ni gyd yn ei hadnabod. ‘Gorwelion a Gobaith’ ydi enw’r gwaith celf mawr newydd wedi ei greu gan yr artist Teresa Jenellen.
Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards, ond nid portread o Ellen ydi hwn; yn hytrach, portread o ferch gyda phwrpas a gobaith, yn edrych tua’r gorwel a thu hwnt - tuag at bethau sydd eto i ddod, pethau sydd yn bosib yn y dyfodol…
I ddysgu mwy am Ellen Edwards, ewch draw i - www.ellenedwards.cymru
Mae’r ceisiadau nawr ar agor i unrhyw unigolyn creadigol gyflwyno eu syniadau ar gyfer y cynfasau canlynol. Mae 3 canfas wedi ei leoli o gwmpas y dref gyda themâu penodol i bob ganfas sydd wedi ei yrru gan atgofion a straeon y gymuned.
Mae'r posibiliadau a'r syniadau creadigol yn ddiddiwedd ar gyfer y lleoliadau canlynol. Be bynnag yw eich maes a’ch arbenigedd, gadewch i'ch creadigrwydd a'ch dychymyg fod yn sbardun ar gyfer y cynfasau hyn...edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau!
Ebostiwch canfas@galericaernarfon.com gyda eich ceisiadau