galeri

Cais Am Wobr

Fel cwmni, rydym yn derbyn degau o geisiadau yn fisol am wobrau a chyfraniadau ar gyfer digwyddiadau elusennol amrywiol, ond yn anffodus, tyda ni methu cynnig tocynnau/gwobrau i bawb.

Pâr o docynnau sinema fyddwn ni yn ei gynnig ar gyfer pob cais – sydd yn ddilys ar gyfer ffilmiau penodol dros gyfnod penodol.

O’r 1af o Fedi 2019 – byddwn yn cyflwyno trefn newydd o wneud ceisiadau am wobrau. Bydd yn rhaid llenwi’r ffurflen isod ar gyfer gwneud cais am wobr a byddwn yn dewis hyd at 20 elusen/cais ar hap yn fisol (ar y dydd Llun cyntaf o’r mis).

Ni fyddwn yn cynnig gwobrau i’r un elusen fwy nag unwaith y flwyddyn er tegwch i elusennau/ceisiadau eraill.

Gofynnwn am geisiadau i gael eu cyflwyno oleiaf mis ymlaen llaw.

 








Elusen Ysgol / Cylch meithrin Prosiect / Corff Cymunedol Arall







 

Os yn llwyddiannus – gofynnwn yn garedig am gael ein cynnwys mewn negeseuon ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Diolch a phob lwc gyda’ch digwyddiad.