Y Goedwig Hud
Clwb Drama Sbarc yn cyflwyno Y Goedwig Hud gan Mared Llywelyn, gyda chaneuon gan Gwilym Bowen Rhys.
Mae Lolyn yn gorrach bach direidus sy'n chwarae triciau di-ri ar ei gymdogion yn y Goedwig Hud. Cymaint y mae'n tynnu coes, toes neb yn ei gredu pan ddaw â'r newyddion ofnadwy, trychinebus, apocalyptaidd iddynt fod y dihiryn chwedlonol, Tywysog y Chwyn, am gymryd drosodd y Goedwig Hud a gwneud y trigolion i gyd yn gaethweision iddo! Ond mae un tylwyth teg yn ei gredu; Briallen. Tybed a gallai hi helpu Lolyn i drechu'r Tywysog ac achub y Goedwig Hud?
19:00 -
Dydd Llun, 8 Gorffennaf
Tocynnau