Gweithdy Gwisgoedd Gwerin a Strwythur Anifeiliaid / Folk Costume and Animal Structure Workshop
Ymunwch â ni mewn cyfres o weithdai sy’n archwilio’r defnydd o orymdaith fel ffordd o uno a dathlu ein traddodiadau gwerin yng Nghymru, gyda’r artistiaid Dominique Fester a Manon Prysor.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn creu eitemau wedi’u hysbrydoli gan Werin a byddant yn cefnogi creu 3 penwisg anifail ar raddfa fawr, i’w cynnwys yn yr orymdaith yn eindigwyddiad dathlu Heuldro’r Haf ar 22 Mehefin ym Mryn Celli Ddu.
11/06/24 – Gweithdy Dylunio Symbolau Gwerin a Phenwisg
13/06/24 – Gweithdy Gwisgoedd Gwerin a Strwythur Anifeiliaid
18/06/24 – Gweithdy Gwneud Baneri a Phenwisg.
Gwybodaeth am GWREIDDIAU / ROOTS
GWREIDDIAU / ROOTS yw pen-blwydd 10fed prosiect tirwedd Bryn Celli Ddu, sydd wedi'i leoli yn y beddrod cyntedd 5,000 mlwydd oed o bwysigrwydd rhyngwladol, Ynys Môn, a byddem wrth ein bodd petaech yn cymryd rhan.
Mae GWREIDDIAU yn brosiect celfyddydau a threftadaeth awyr agored trawsddisgyblaethol, sy’n cynnig cyfle i ymateb i Fryn Celli Ddu, trwy gloddio archaeolegol, llên gwerin a pherfformio; archwilio ei hanes a'i ddefod gan ddefnyddio lens gyfoes.
Cysylltwch agangharad.evans@think-creatively.co.ukam ragor o wybodaeth ar gyfer y gweithdai hyn.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost atffion.evans@galericaernarfon.comcyn y digwyddiad a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.