galeri


Kingdom of the Planet of the Apes [12A] IS-DEITLAU | SUBTITLED

image

DANGOSIAD GYDAG IS-DEITLAU

Sawl cenhedlaeth ar ôl teyrnasiad Caesar, mae epa ifanc yn mynd ar daith a fydd yn ei arwain i gwestiynu popeth y mae wedi'i ddysgu am y gorffennol a gwneud dewisiadau a fydd yn diffinio dyfodol i epaod a bodau dynol fel ei gilydd…

Ffilm ddiweddaraf yng nghyfres ffilmiau Planet of the Apes.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 
 
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

13:30 - Dydd Iau, 16 Mai Tocynnau

19:00 - Dydd Llun, 20 Mai Tocynnau


Trêl