Robot Dreams [PG] – Rhiant a Babi | Parent & baby
Dangosiad arbennig i riant a babi (hyd at 18 mis oed). Pwrpas y dangosiadau misol yma (ar fore Gwener cyntaf y mis) yw i gynnig cyfle i rieni fwynhau ffilm gyda’u babi heb boeni am sgrechian, bwydo na amharu ar eraill… mi fydd pawb yn yr un gwch!
Bydd y golau wedi cael ei adael ymlaen (lefel isel) a bydd y sain wedi cael ei droi lawr fwy nag arfer i greu awyrgylch fwy cartrefol i’r babis. Bydd angen parcio pramiau y tuallan i’r sgrîn a gellir mynd nol a mlaen fel sydd angen.
Ffilm mis Mai:ROBOT DREAMS [PG]
Pris tocyn: £6 (fesul oedolyn). **caniateir hyd at 4 oedolyn gyda pob babi (os ydi mam a dad, nain a taid ayb eisiau dod hynny yw)
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.
Trêl