TONIC - Ben Twthill
Ymunwch a ni am awr yng nghwmni'r triawd hwyliog o Gaernarfon, Ben Twthill. Gan gyfuno doniau cerddorol Gethin Thomas (Gwibdaith Hen Fran) a Neil 'Maffia' Williams, mae'r band wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd dros y blynyddoedd diwethaf gyda'i hiwmor unigryw a'u caneuon bachog.
Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).