TONIC - Gwilym Bowen Rhys
Rhown groeso mawr i'r canwr gwerin adnabyddus o Bethel, Gwilym Bowen Rhys.
Dros y ddegawd diwethaf mae wedi bod yn perffeithio ei grefft fel perfformiwr gyda bandiau ac ar ben ei hun, ac mae bellach yn giamstar ar swyno a diddanu cynulleidfaoedd.
Drwy gyfuno hen eiriau ac alawon Cymreig a’i gyfansoddiadau gwreiddiol, mae’n cynnig cerddoriaeth sy’n gyffrous a hiraethus, yn gwthio ffiniau ond wedi’w wreiddio’n gadarn yng Nghymru.
Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).