galeri


Rhys Meirion + 3awd Bryn Fôn

image

Noson hyfryd yng nghwmni Rhys Meirion a’i gitâr a 3awd sef Bryn Fôn, Mered Morris, a Lleucu Gwawr.

Rhys Meirion

Mae’r tenor Cymreig Rhys Meirion eisoes wedi mwynhau llwyddiant ledled y byd gyda chanu opera a chlasurol. Er ei fod wedi troedio llwyfan Galeri lawer gwaith a’r cap clasurol a ei ben, bydd yn ymddangos y tro hyn gyda gitâr ar ei ysgwydd i berfformio lu o ganeuon i’ch diddanu.

3awd

Ar ôl taith lwyddiannus ym Mhatagonia ym mis Tachwedd 2024, dychwelodd Bryn Fôn a Mered Morris i Gymru’n awyddus i barhau perfformio a’i gilydd ac i gyfoethogi’i cerddoriaeth drwy wahodd y gantores a’r pianydd Lleucu Gwawr i ymuno â nhw. Gyda’i gilydd, mae 3awd wedi bod yn adlonni cynulleidfaoedd ar draws Cymru gyda chaneuon gwreiddiol a chlasuron gan artistiaid megis Dewi Pws, Dyfrig Evans, a Sbardun.

Dewch i Galeri am noson llawn cerddoriaeth yn cynnwys caneuon gwreiddiol gan Rhys Meirion a 3awd, caneuon gwerin traddodiadol, a chyfyrs o glasuron Cymraeg.

19:30 - Dydd Sadwrn, 4 Ebrill Tocynnau