Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw.
Yn dilyn galw mawr, mae Huw Fyw yn ôl ar daith i gynnig cyfle arall i gynulleidfaoedd fwynhau drama lwyfan gyntaf Tudur Owen – drama ddoniol a thyner am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 panad gydag un bag te!
Canllaw Oed: 12+
Cysylltwch gyda’r swyddfa docynnau er mwyn ychwanegu Taith Gyffwrdd cyn y sioe, a/neu Sain Ddisgrifiad. Mae capsiynau caeedig dwyieithog ar gael. Perfformiad 23ain Ebrill yn cael ei ddehongli drwy gyfrwng BSL
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Mae'r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys sain uchel a goleuadau'n fflachio.
Cynhyrchiad Theatr Cymru