galeri


LLEIANOD

image

Mae Cwmni Sioe Gerdd Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn yn ôl eleni gyda chynhyrchiad ffres a chyffrous Cymraeg o'r Sioe a ffilm 'Sister Act' . Cyfieithiad gwreiddiol Cymraeg gan Emlyn Gomer Roberts. 

Pan fydd y difa, Deloris Van Cartier, yn dyst i lofruddiaeth, caiff ei rhoi mewn gofal amddiffynnol yn yr un lle y mae'r heddlu'n siŵr na chaiff ei darganfod: lleiandy!  Wedi'i gwisgo fel lleian, mae'n darganfod ei bod yn gwrthdaro â'r ffordd mae'r lleianod yn gorfod byw. Gan ddefnyddio ei dawn unigryw a'i thalent canu i ysbrydoli'r côr, mae Deloris yn anadlu bywyd newydd i'r eglwys a'r gymuned ond, wrth wneud hynny, mae'n datgelu ei lleoliad cyfrinachol.  Yn fuan, mae'r bobl ddrwg yn dod ar ei hôl, ond yn dod wyneb yn wyneb â'r lleianod a phŵer ei chwiorydd newydd. 
Mae'r sioe yn llawn o gerddoriaeth gospel eneidiol, dawnsio rhyfeddol, a stori gafaelgar,  bydd 'Lleian...od' yn siwr or roi gwên fawr ar wynebau cynulleidfa. 

Tîm Cynhyrchu: Lowri Mererid, Eleri Fôn, Lois Eifion a Lucy Hawken. 

19:30 - Dydd Iau, 9 Ebrill Tocynnau

19:30 - Dydd Gwener, 10 Ebrill Tocynnau

19:30 - Dydd Sadwrn, 11 Ebrill Tocynnau