Fel arfer, rydym yn cynnal gŵyl ffilm gynhwysfawr ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Chwefror sydd yn gymysgedd o:
Yn sgil y pandemig, mae Gŵyl 2021 am orfod bod yn wahanol iawn (am resymau amlwg).
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – bydd yr adolygydd ac addysgwr ffilm Dion Wyn Hughes yn cynnal cyflwyniadau am lythrennedd ffilm fel rhan o “Clwb PICS”.
Dyma gyfle i ddysgu mwy a lythrennedd ffilm – fydd yn amlygu i’r gwylwyr beth sy'n gwneud ffilm fod yn un “dda” ac i sefyll allan. O’r plot/stori, y gerddoriaeth, y lliwiau a cryfder y cymeriadau. Yn Gymraeg fydd y cyflwyniad ar-lein.
Mae 2 ffilm wedi ei ddewis gan Dion ar gyfer y cyfnod:
MOANA (yn dangos ar BBC 1, 24.12.20 @ 12:35)
Bydd Sesiwn Dion wedyn ar y dudalen Youtube o 13:00 dydd Llun, 28.12.20.
**noder bod y sesiwn wedi ei deliwro ar gyfer plant oed blwyddyn 5-6 ond croeso i bawb
GUARDIANS OF THE GALAXY (sydd ar BBC1, 01.01.21 @ 23:25)
Bydd sesiwn Dion wedyn ar dudalen Youtube o 13:00 dydd Sul, 03.01.21.
** sesiwn wedi ei greu ar gyfer plant blynyddoedd 7, 8 a 9 yn benodol.
Rydym yn parhau i gynllunio tuag at gyflwyno rhaglen weithgareddau/dangosiadau ar gyfer PICS yn ystod y misoedd nesaf. Oso es gennych unrhyw syniadau ac awgrymiadau, cofiwch gysylltu: pics@galericaernarfon.com
Hoffem ddiolch i Ffilm Cymru am gefnogi PICS.