Mewn pentref tawel, mae Rhinoseros yn taranu trwy'r strydoedd. Mae pawb wedi drysu'n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?
Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a'u trawsnewid i fewn i fwystfilod. Wrth i'r byd a'i bobl newid o'i gwmpas, mae'r arwr anhebygol Bérenger yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio - ond beth ydy'r gost o beidio cydymffurfio?
Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw'r campwaith abswrd hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.
Byddwch yn ofalus - mae'r rhinoserod yn dod!
Canllaw oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, taniadau, niwl a goleuadau sy'n fflachio.
Gostyngiadau/tocynnau grwp ar gael drwy’r swyddfa docynnau – 01286 685 222.
19:30 - Dydd Iau, 16 Tachwedd Tocynnau