galeri

Croeso i benwythnos unigryw yn hanes Caernarfon! Wrth i fwy na 80 o artistiaid rhyngwladol ddod i Eryri ar gyfer cynhadledd Bubble Daze, mae Galeri a chwmni swigod lleol Dr. Zigs yn trefnu gŵyl i gyd-fynd â’r gynhadledd. Yn ystod y penwythnos, bydd cyfle i bawb o bob oed fwynhau a dysgu mwy am swigod - sut mae creu swigod, sut mae creu pypedau o ewyn, a dysgu sut mae mathemateg a gwyddoniaeth yn bwysig wrth gynhyrchu a chwythu swigod.

Yn ogystal â sioeau theatr yn Galeri, bydd rhai o’r artistiaid rhyngwladol yn cynnal perfformiadau stryd ar hyd a lled y dref. Yna, i goroni’r ŵyl, ymgais Caernarfon i roi ei henw ar fap y byd fel lleoliad torri recordiau creu swigod!


Gwener - 21.09.18

Sadwrn - 22.09.18

Sul - 23.09.18