galeri
imageimage

Sinema newydd Galeri

Wedi cyfnod o 7 mlynedd yn cynllunio ac yn chwilio am y cyllid angenrheidiol i wireddu’r prosiect – agorwyd sinema newydd Galeri yn swyddogol gan yr actor Rhys Ifans ym mis Medi 2018.

Roedd y galw am sinema bnwrpasol yn amlwg yn Galeri yn eithaf cynnar ar ôl agor. Roedd yn rhaid i ni fel cwmni weithredu ar y cynllun arbennig yma gan nad oedd posib datblygu ein rhaglen artistig na’n gweithgareddau masnachol (cynadleddau/priodasau/llogi) yn y drefn bresennol.

Rydym yn ddibynol ar gynhyrchu oddeutu 80% o’n incwm yn fasnachol – felly mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran ein cynhaliaeth a datblygiad fel busnes. Mae’r datblygiad yma hefyd wedi sicrhau bod darpariaeth sinema teilwng yn yr ardal, gyda 2 sgrin newydd sbon Galeri fydd unig sinema aml-sgrin llawn amser Gwynedd a Môn.

Mae 2 sgrin yn y sinema sydd yn dangos y ffilmiau diweddaraf yn ogystal a dangosiadau arbennig a chyfresi o ffilmiau cyson er enghraifft ffilmiau hamddenol (dementia gyfeillgar), dangosiadau hygyrch (gydag is-deitlau) a ffilmiau yn arbennig i riant a babi.

Ers agor agor y sinema, mae dros 90,000 wedi mynychu dangosiad ffilm yn Galeri!

Mae’r sinema newydd yn Galeri yn rhan o Raglen cyrchfannau denu twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Gellir gweld y rhaglen sinema drwy glicio yma

Cofiwch ein dilyn am ddiweddariadau ar wefanau cymdeithasol:

Facebook Twitter Instagram


Ariannwyr

imageRydym yn hynod o ffodus i gael cefnogaeth ariannol gan y canlynol:

Croeso Cymru - Raglen Cyrchfan Denu Twristiaeth
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Targed Arian Cyfatebol (TAC)

Cyngor Celfyddydau Cymru

Llywodraeth Cymru / Cyngor Gwynedd (cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid)

Galeri Caernarfon Cyf


Lluniau: Y gwaith adeiladu

Haf 2017

Galeri 2

Hydref 2017

Galeri 2

Gaeaf 2018

Gwanwyn 2018

Galeri 2

Haf 2018

Galeri 2

Hydref 2018

Galeri 2


Amserlen/Cerrig milltir:

paratoi’r safle
Ebrill – Awst 17

gosod y strwythr dur
Medi – Rhagfyr 17

cau yr adeilad (to/waliau)
Ionawr – Mawrth 18

gwaith mewnol
Gwanwyn 18

treialu systemau
Haf 18

Agor


Ariennir y prosiect gan:

Pensaer:

Adeiladir gan: