galeri


Cyngerdd Blynyddol Ysgol Glanaethwy : Sain, Cerdd a Chân!

image

Rhai o uchafbwyntiau'r ysgol a fu'n cynrychioli eu siroedd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.

Mae ysgol Glanaethwy wedi profi llwyddiannau mewn Gŵyliau Theatrig a Cherddorol ers 1990 gan ddod i'r brig yng nghystadleuthau Choir of the Year, Music For Youth, Barclays Music Theatre Awards, Côr Cymru, BGT a Last Choir Standing, yn ogystal â chael eu dyfarnu yn Gôr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ban Geltaidd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r ysgol wedi teithio i Fwlgaria, Yr Eidal, Y Swisdir, Efrog Newydd, Patagonia, Buenos Aires, Yr Wcrain, Tsieina, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr ar sawl achlysur. Un o uchafbwyntiau diweddaraf y côr oedd ennill y teitl Côr y Byd yn Llangollen yn 2024. Dewch i weld y disgyblion yn perfformio rhai o'r eitemau y buont yn eu perfformio yn Eisteddfod yr Urdd 2026. Bydd yn braf cael dychwelyd i'r Galeri unwaith eto. Edrych ymlaen i'ch gweld

19:30 - Dydd Mercher, 1 Gorffennaf Tocynnau