Blasu Crefft 2026
Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol.
Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.
25/06/26 - Sioned Evans - Gwneud broetsh tecstilau
16/07/26 - Sian Lester - Arbrofi gyda Thechneg Gwrthsefyll Shibori
20/08/26 - Katie Ellidge - Gweithdy Creadigol
17/09/26 - Chris Higson - Gweithdy paentio
22/10/26 - Emily Hughes - Gweithdy Cerameg
£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.
Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at post@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.