galeri


Effi o Blaenau [15]

image

Rydym bob amser yn dilyn rheolau cenedlaethol am raddfa oedran ffilm, ac os ydych chi'n ddigon lwcus i edrych yn iau na radd y ffilm, byddwn yn gofyn i weld math o ID. Am fwy o wybodaeth:Our Age Ratings | BBFC


Yn seiliedig ar fonodrama enwog a hynod boblogaidd Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae ‘Effi o Blaenau’ yn ddehongliad sinematig gan y cyfarwyddwr Marc Evans, gyda thirweddau eang Gogledd Cymru yn gefndir iddi.
Mae’r ffilm yn dilyn Effi, menyw ifanc sy’n ysu am ddianc o dref lle mae’r tafarndai wedi cau, mae’r swyddi wedi diflannu, ac mae ei mam-gu yn gweithio sifftiau nos yn y siop sglodion leol i drio cael dau ben llinyn ynghyd. Mewn clwb nos yn Llandudno mae hi’n cwrdd ar hap â’r milwr clwyfedig Lee, a agorai’r drws am gyfnod byr i rywbeth gwell. Am ennyd, mae Effi’n cael cip ar fywyd na fuasai hi erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer caletach. Wrth iddi wynebu’r dyfodol fel mam sengl ddi-waith ar fin rhoi genedigaeth, mae stori Effi’n datgelu argyfwng cymdeithasol: system â phrinder wardiau mamolaeth, prinder bydwragedd, a gormod o ddewisiadau amhosibl a wneir o angenrheidrwydd yn hytrach nag o ofal. Mae Leisa Gwenllian yn rhoi perfformiad tanbaid fel Effi, gan ennyn beirniadaeth a chydymdeimlad yn gyfartal.
Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

14:00 - Dydd Gwener, 19 Mehefin Tocynnau

19:00 - Dydd Gwener, 19 Mehefin Tocynnau

14:00 - Dydd Sadwrn, 20 Mehefin Tocynnau

19:00 - Dydd Sadwrn, 20 Mehefin Tocynnau

13:00 - Dydd Sul, 21 Mehefin Tocynnau

16:00 - Dydd Sul, 21 Mehefin Tocynnau

14:00 - Dydd Llun, 22 Mehefin Tocynnau

19:00 - Dydd Llun, 22 Mehefin Tocynnau

14:00 - Dydd Mawrth, 23 Mehefin Tocynnau

19:00 - Dydd Mawrth, 23 Mehefin Tocynnau

14:00 - Dydd Mercher, 24 Mehefin Tocynnau

19:00 - Dydd Mercher, 24 Mehefin Tocynnau

14:00 - Dydd Iau, 25 Mehefin Tocynnau