galeri


MADFABULOUS [12A] Is-deitlau | Subtitles

image

CYNNWYS IS-DEITLAU
Pan fydd Henry Paget, sy’n ddyn bywiog a lliwgar, yn cyrraedd Gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatrig a’i ecsentrigrwydd herfeiddiol yn gyrru siocdonnau drwy’r dosbarth uwch, er mawr ddifyrrwch i’r trigolion lleol. Ochr yn ochr â’i gyfnither fywiog, a’i fwtler ffyddlon, Gelert, ceisiai Henry naddu hunaniaeth iddo’i hun fel y Pumed Marciws. Ond, gyda thraddodiadau myglyd, cynllwyniau ei berthnasau a chysgod llethol ei dad yn bwrw drosto, mae ei daith tuag at uchafiaeth yn llawn rhwystrau.
Dathliad dros ben llestri a digyfaddawd o arwahanrwydd, wedi’i ysbrydoli gan stori wir. Ymysg y sêr, mae enwebai BAFTA, Callum Scott Howells (It’s a Sin, The Beautiful Game), ynghyd â chast cefnogol rhagorol sy’n cynnwys Rupert Everett (enwebai; The Happy Prince, An Ideal Husband), Ruby Stokes (Jay Kelly, Bridgerton), enillydd BAFTA Siobhán McSweeney (Derry Girls, Alice Through the Looking Glass), Louis Hynes (A Series of Unfortunate Events, The Great), Louise Brealey (Sherlock, Brian and Charles), Tom Rhys Harries (White Lines, The Gentlemen) a Paul Rhys (Wuthering Heights, Saltburn).

Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

19:15 - Dydd Iau, 11 Mehefin Tocynnau


Trêl