galeri


Effi o Blaenau- Noson Holi ag Ateb | Q+A

image

Rhagddangosiad a Sesiwn Holi ag Ateb 'Effi o Blaenau' gyda Leisa Gwenllian.

Yn seiliedig ar fonodrama enwog a hynod boblogaidd Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae ‘Effi o Blaenau’ yn ddehongliad sinematig gan y cyfarwyddwr Marc Evans, gyda thirweddau eang Gogledd Cymru yn gefndir iddi.  

Mae’r ffilm yn dilyn Effi, menyw ifanc sy’n ysu am ddianc o dref lle mae’r tafarndai wedi cau, mae’r swyddi wedi diflannu, ac mae ei mam-gu yn gweithio sifftiau nos yn y siop sglodion leol i drio cael dau ben llinyn ynghyd. Mewn clwb nos yn Llandudno mae hi’n cwrdd ar hap â’r milwr clwyfedig Lee, a agorai’r drws am gyfnod byr i rywbeth gwell. Am ennyd, mae Effi’n cael cip ar fywyd na fuasai hi erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer caletach. 

Mae'r digwyddiad hwn yn gymwys i ddiscownt Prima+.

19:00 - Dydd Iau, 18 Mehefin Tocynnau