galeri


NT Live: All My Sons

image

Mae Bryan Cranston (Breaking Bad) a Marianne Jean-Baptiste (Hard Truths) yn serennu mewn cynhyrchiad newydd pum seren, sydd wedi derbyn canmoliaeth fuddugoliaethus, o glasur Arthur Miller, gan y cyfarwyddwr gweledigaethol Ivo Van Hove (A View from the Bridge).

Un teulu, wrth galon breuddwyd America. Pan ddaw adeg y rhyfel ag elw i Joe, daw hynny am bris pan gaiff ei bartner ei gyhuddo o drafodion gweithgynhyrchu troseddol, ac mae ei fab hynaf yn mynd ar goll ar faes y gad. A ddaw cyfnod o heddwch â thawelwch meddwl i Joe, neu a fydd yn gorfod wynebu canlyniadau ei weithredoedd?
Wedi’i ffilmio’n fyw o’r West End, mae Paapa Essiedu (I May Destroy You), Tom Glynn-Carney (House of the Dragon), a Hayley Squires (I, Daniel Blake) hefyd yn ymddangos yn y ddrama ragweledol annifyr hon.
Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

19:00 - Dydd Iau, 16 Ebrill Tocynnau