galeri


Blazin' Fiddles

image

Cymerwch feistri mwyaf dawnus traddodiadau ffidil brodorol yr Alban, cefnogaeth gerddorol o’r radd flaenaf ym myd cerddoriaeth werin, a hwyl enwog o’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, eu gadael i aeddfedu am dros chwarter canrif, ac fe gewch chi Blazin’ Fiddles. 


A hwythau'n un o fandiau mwyaf poblogaidd a chanmoladwy sîn gerddorol yr Alban, o'r eiliad y mae'r ensemble aml-wobrwyedig hwn yn camu ar y llwyfan, byddant yn eich tywys ar daith gerddorol gyffrous. Daw dawn feistrolgar y ffidlwyr Jenna Reid (Shetland), Kristan Harvey (Orkney) a Rua Macmillan (yr Ucheldiroedd) ynghyd â chyfeiliant grymus ac egnïol Angus Lyon ar y piano ac Anna Massie ar y gitâr - cyfuniad sy’n siŵr o’ch rhyfeddu.

Ers dros bum mlynedd ar hugain, nid oes yr un band arall wedi llwyddo i gyfleu amrywiaeth, egni a sensitifrwydd cerddoriaeth ffidil yr Alban cystal â Blazin’ Fiddles. Yn llawn troeon cerddorol annisgwyl, mae eu chwarae bywiog yn cyd-fynd â hiwmor miniog a straeon difyr o’u teithiau a’u halawon di-ri. Boed mewn neuadd fawreddog neu bentref bach yn y mynyddoedd, mae'r ban

19:30 - Dydd Iau, 12 Mawrth Tocynnau