galeri


Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

image

Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr

Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

Gan Mererid Hopwood 

Cerddoriaeth gan Seiriol Davies

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU!

Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!

Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.

Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.

Whwsh! Bant â ni!


13:00 - Dydd Iau, 25 Mehefin Tocynnau

17:00 - Dydd Iau, 25 Mehefin Tocynnau

10:00 - Dydd Gwener, 26 Mehefin Tocynnau

13:00 - Dydd Gwener, 26 Mehefin Tocynnau