galeri


Is There Anybody There?

image

Mae TRIONGL yn defnyddio eu hiwmor tywyll nodweddiadol i archwilio marwolaeth, byw gyda marwolaeth a'r posibilrwydd o fywyd y tu hwnt i bob dim yn y gomedi ddwyieithog hon.

Wedi ei ysbrydoli gan nosweithiau a dreulir mewn sioeau cyfathrebu seicig a straeon personol o alar, mae ‘Is There Anybody There?’ yn cwestiynu sut rydym yn rhyngweithio â marwolaeth, beth sydd ar yr ochr arall a sut rydym ni, y byw, yn dod i delerau â'r byd tu hwnt i’n deall?

Wedi'i gyflwyno'n ddwyieithog ond yn hygyrch i ddysgwyr y Gymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Wedi'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mewn partneriaeth â Theatr Soar, Merthyr.

Mae seicig, ysbryd sy'n hoff o ffitrwydd, a heddwas yn ymchwilio i farwolaeth, bywyd, a phopeth rhyngddynt yn y gomedi ddwyieithog hon gan y cwmni theatr o Gymru, TRIONGL.

Canllaw oedran: 14+
Rhybudd cynnwys: Cyfeiriadau at farwolaeth a galar, iaith gref

19:30 - Dydd Mercher, 25 Mawrth Tocynnau