galeri


André Rieu’s 2025 Christmas Concert: Merry Christmas

image

Y tymor gwyliau hwn, mae'r hud yn dechrau ar y sgrin fawr. Ymunwch ag André Rieu ar gyfer ei Gyngerdd Nadolig 2025 – “Nadolig Llawen” a phrofwch garolau llawen, waltsiau prydferth, a digon o syrpreisys – dyma’r digwyddiad sinema Nadoligaidd gorau!

Gyda’i Gerddorfa Johann Strauss wych, a gwesteion arbennig gan gynnwys yr Emma Kok syfrdanol a dros 400 o chwaraewyr pres yn dod â sain fawreddog y Nadolig, mae cyngerdd André yn llawn cynhesrwydd, chwerthin, a llawenydd yr ŵyl.
Y Nadolig yw hoff amser André o’r flwyddyn - ac mae’n methu aros i rannu’r gyngerdd ysblennydd hwn gyda chi, mewn sinemâu yn unig!
Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

19:00 - Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr Tocynnau

13:00 - Dydd Sul, 7 Rhagfyr Tocynnau