galeri


The Faulty Towers Dining Experience

image

Sioe ymdrochol, doniol mae’n rhaid i chi weld! Wedi’i geni ym Mrisbane yn 1997, mae’r Faulty Towers Dining Experience bellach yn teithio i dros 20 o wledydd pob flwyddyn.
Ymunwch â Basil, Sybil a Manuel mewn sioe fyw ddwy awr o hyd, lle mae’r gynulleidfa’n troi’n westai mewn bwyty – yn mwynhau cinio tri chwrs llawn helynt a hiwmor! 
Gyda dros filiwn o wylwyr ers y dangosiad cyntaf, mae’r sioe bum seren hon yn boblogaidd ledled y byd – o Awstralia i Lundain, lle mae’n perfformio’n barhaol yn The President Hotel, Russell Square. 
Addas i bawb, o blant i ddathliadau ben-blwyddi cant oed – profiad o’r radd flaenaf sy’n sicr o godi gwên! Mae pob tocyn yn cynnwys pryd tri chwrs a'r sioe!

Hyd y perfformiad: 2 awr 
Mae'r sioe'n dechrau'n brydlon am 7:30pm

19:30 - Dydd Sadwrn, 31 Ionawr Tocynnau