galeri


Tonic Dolig – Rhys Meirion gyda Côr Lleisiau Llawen

image

Rydym yn falch o groesawu ein canwr preswyl, y tenor Rhys Meirion fydd yn perfformio yng nghyfres Tonic olaf y flwyddyn, gyda rhaglen o gerddoriaeth boblogaidd a charolau amrywiol. Yn ymuno â Rhys fydd côr arwyddo Makaton preswyl Galeri, Côr Lleisiau Llawen! 

Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yn dychwelyd i Galeri ar gyfer sesiynau carolau yn y bar ar ôl y cyngerdd.Ac wrth gwrs, bydd paned a mins pei i ddilyn gyda’ch tocyn! 

Mae cyngherddau Tonic yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyflwynir y cyngerdd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

14:30 - Dydd Iau, 11 Rhagfyr Tocynnau