galeri

Arddangosfa Agored 2025

Mae Agored 2025 yn cynnig cyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, yn fyfyriwr neu berson sy'n creu celf fel diddordeb i ymgeisio i fod yn rhan o arddangosfa flynyddol yn Galeri.

Eleni, ein beirniaid gwadd yw'r artistiaid Ella Louise Jones a Llŷr Evans!

Mae gwobrau ariannol hael ar gael:

£1,000 dewis y beirniaid 
£400 cymeradwyaeth uchel
£250 dewis y bobl

Cost ymgeisio:
£10 (drwy paypal – i’w dalu drwy’r ffurflen gofrestru)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
23:59 Dydd Llun, 15/09/25

Dyddiad yr arddangosfa yn Galeri:
22/11/25 - 31/01/26

Gellir lawrlwytho y telerau/amodau yma

Plîs cysylltwch os oes angen cymorth i ymgeisio neu agen holi cwestiwn trwy e-bostio agored@galericaernarfon.com neu ffonio 01286 685208.

collage o wahanol eitemau yn yr arddangosfa

Yn anffodus mae cofrestriadau ar gyfer AGORED y flwyddyn yma bellach wedi cau.