Digwyddiadau Galeri: ffilm, cerddoriaeth, theatr, celf, dawns, comedi, gweithdai a llawer iawn mwy…
Croeso i wefan Galeri Caernarfon Cyf.
Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy'n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu.
Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod - "unrhyw beth yn bosibl...drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy".
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth bydd y cwmni yn: "gweithredu prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol i wireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a'r cyffiniau"
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu nifer o brosiectau a chynlluniau yn y gymuned, yn cynnwys:
• Datblygu eiddo [masnachol a preswyl] yng Nghaernarfon
• Cynnal Prosiect Celfyddydol SBARC! i Blant a Phobl Ifanc
• Bod yn berchen ar Ganolfan Menter Greadigol Galeri a'i rhedeg
• Gwasanaethau Ymgynghori POSIB (rhannu arbenigedd mewn prosiectau adfywio, rheoli prosiectau a hyfforddiant)
Cysylltu
Galeri Caernarfon,
Doc Victoria, Caernarfon,
Gwynedd, LL55 1SQ
T 01286 685 250
post@galericaernarfon.com






