galeri

Newyddion

Uned ar gael : Stryd y Plas, Caernarfon

Mae gennym uned ar gael yn 17 Stryd y Plas, Caernarfon. Byddai’r uned yn addas fel siop/gofod manwerthu neu swyddfa.

Maint/arwynebedd llawr: 18m2
Rhent (misol): £420

Gellir lawrlwytho pecyn gwybodaeth yma

Am ffurflen gais neu i drefnu gweld yr uned, cysylltwch â eiddo@galericaernarfon.com neu 01286 685 250. Disgwylir cryn ddiddordeb yn yr uned. O’r herwydd, bydd gofyn am ffurflenni cais wedi dychwelyd erbyn 23:59 nos Lun – 26.02.2024.

Os ydych chi’n chwilio am unedau masnachol yng Nghaernarfon (siop / swyddfa / bwyty / gweithdy ayb) – plis llenwch yr holiadur ar-lein ar gyfer cael eich ychwanegu i’n bas data. Gellir llenwi’r ffurflen yma

11.12.23 Oriau agor Rhagfyr 2023

Eleni, bydd Galeri yn cau unwaith eto dros gyfnod y Nadolig a’r Flwydyn Newydd er mwyn i staff gael saib a mwynhau amser gyda teulu a ffrindiau.

Dyma gadarnhau oriau agor y Swyddfa Docynnau, y Café Bar a’r gegin am weddill y mis:

Dydd

Dyddiad

Swyddfa Docynnau

Café Bar  

Cegin (gweini bwyd)

Llun

11.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

Ar gau

Mawrth

12.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

Ar gau

Mercher

13.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

10:00 – 15:00 (bwydlen gyfyngedig)

Iau

14.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

10:00 – 15:00

Gwener

15.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

10:00 – 15:00

Sadwrn

16.12.23

09:00 – 16:30

10:00 – 17:15

10:00 – 15:00

Sul

17.12.23

Ar gau

Ar gau

Ar gau

Llun

18.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

Ar gau

Mawrth

19.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

Ar gau

Mercher

20.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

10:00 – 15:00 (bwydlen gyfyngedig)

Iau

21.12.23

09:00 – 18:45

10:00 – 20:00

10:00 – 15:00

Gwener

22.12.23

09:00 – 20:00

10:00 – 23:30

10:00 – 15:00

Sadwrn

23.12.23

09:00 – 13:30

Ar gau
*Gwasanaeth ciosg sinema ar gael

Ar gau
*Gwasanaeth ciosg sinema ar gael

Byddwn yn ail-agor Galeri ar ddydd Mawrth, 02.01.2024.

Tra y bydd Galeri ar gau, mae modd archebu tocynnau ar-lein (24 awr y dydd).

Diolch i bawb am ein cefnogi yn ystod y flwyddyn. Fel menter gymunedol, mae’n wych bod cymaint ohonnoch yn cefnogi ein gwaith.

Ar ran pawb yn Galeri Caernarfon Cyf, yn staff, aelodau’r bwrdd ac yn wirfoddolwyr, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! Edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn 2024.

12.12.23 Galeri Caernarfon Cyf yn cael ei gydnabod fel Ymddiriedolaeth Ddatblygu Treftadaeth

Mae 12 o fentrau cymdeithasol ledled Prydain, gan gynnwys Galeri Caernarfon Cyf wedi cael eu grymuso i gymryd drosodd a thrawsnewid adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl yn eu cymunedau gyda diolch i gronfa refeniw gwerth £5m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac elusen y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Fel un o 12 Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth newydd, bydd Galeri Caernarfon Cyf yn derbyn pecyn o gyllid refeniw i'w helpu i adnabod prosiectau posib, gwneud gwaith ymchwil a datblygu er mwyn gallu ceisio trawsnewid adeilad hanesyddol bwysig yn y dref gan ddod a nhw nol i ddefnydd er budd y gymuned.

Ers sefydlu Galeri Caernarfon Cyf ym 1992 (dan yr enw gwreiddiol Cwmni Tref Caernarfon), mae’r cwmni wedi mynd ati i adnewyddu dros 20 o adeiladau yng nghanol tref Caernarfon sydd bellach mewn defnydd fel siopau, swyddfeydd, salonau, bwytai ac yn cyflogi dros 200 o staff yn ogystal â dros 40 o unigolion yn byw mewn eiddo preswyl sydd berchen y cwmni.

Meddai Steffan Thomas, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf: “Pan sefydlwyd y cwmni nol yn 1992, y prif bwrpas oedd i geisio adfywio hen adeiladau gwag gan ddod a nhw nol fewn i ddefnydd. Roedd tua hanner yr eiddo masnachol o fewn muriau’r dref wedi’u hesgeluso ac ar werth, a chydig iawn o ddiddordeb gan y sector breifat. Mae’r gefnogaeth ariannol yma am gynnig cyfleoedd pellach i ni fynd ati i edrych ar adnewyddu mwy o eiddo a’u dod a nhw nol i ddefnydd fydd yn dod a buddion cymdeithasol, economaidd gan ddiogelu adeiladau hanesyddol bwysig yn y broses.”

Dros gyfnod o 3 mlynedd y cyllid, bydd Galeri Caernarfon Cyf yn: - Darganfod ac ystyried adeiladau / prosiectau - Comisiynu adroddiadau amrywiol ar yr adeiladau (cyflwr / cadwraeth / prisio ayb) - Gwneud adroddiadau dichonoldeb ac ymchwil Marchnata - Datblygu cynlluniau busnes - Adnabod ac ymgeisio am gyllid cyfalaf/ychwanegol - Ymgysylltu gyda rhanddeiliaid am ddefnyddiau posib prosiectau/adeiladau.

Erbyn diwedd 2026, y gobaith ydi bod gwaith adfywio adeilad wedi dechrau – fydd yn dod â adnodd/adeilad hanesyddol bwysig nol fewn i ddefnydd ar gyfer y gymuned a’r economi leol i elwa.

steffan a adam

28.11.23 SWYDD: Rheolwr Café Bar

Mae gennym gyfle i unigolyn arwain Café Bar

Fel canolfan ac adeilad prysur sydd yn croesawu dros 200,000 o bobl drwy’r drysau yn flynyddol – mae’r cynnig arlwyo (bwyd/diod) yn ganolog bwysig ar gyfer ymwelwyr, defnyddwyr, artistiaid a’r staff sydd yn gweithio yn Galeri.

Dyma swydd bwysig sydd am fod yn arwain ac ysgogi’r adran I ddatblygu yr arlwy, ymestyn ein cynnig ac yn ei hanfod, ein bod yn cynnig gwasanaeth effeithiol, safonol a chyson ar gyfer pawb.

Teitl: Rheolwr Café Bar
Yn atebol i: Tîm Rheoli Galeri
Cyflog: £23,000 - £26,000 (Pro rata)
Oriau gwaith: Cytundeb 37 – 40 awr yr wythnos ar gael *Bydd ROTA Llun – Sul wythnosol yn cynnwys oriau gyda’r nos / penwythnosau a Gwyliau Banc (yn ôl yr angen)
Dyddiad cau: 17:00, dydd Mercher, 13.12.2023
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 18.12.2023
I ddechrau: Ionawr 2024 (yn ddelfrydol)

Mae siarad a cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Fel cyflogwr, rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac yn ehangach yn fanwl gywir – a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Gellir lawrlwytho:

Os hoffech drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â:
Steffan Thomas | steffan.thomas@galericaernarfon.com | 01286 685211

24.10.23 SWYDD: PENNAETH GWEITHREDIADAU

Mae gennym gyfle i unigolyn trefnus, penderfynol ac egnïol i weithio yma yn Galeri fel Pennaeth Gweithrediadau.

Yn un o ganolfannau celfyddydol blaenllaw Cymru – mae’r swydd hon yn cynnig amrywiaeth o gyfrifoldebau a chyfle i chwarae rhan hollbwysig yn y ffordd mae Galeri yn cael ei redeg a’i weithredu. Mae cyfle yma i gyfrannu tuag at y cynnig, y bwrlwm ac i brofiad ymwelwyr o’u hymweliad â Galeri.

Teitl: Pennaeth Gweithrediadau
Yn atebol i: Tîm Rheoli Galeri
Oriau: Cytundeb 35 – 40 awr yr wythnos ar gael. Bydd yr oriau dros 4 diwrnod yr wythnos ac yn ddibynol ar y ROTA (I gynnwys cynnwys oriau gyda’r nos, penwythnosau a Gwyliau Banc yn ôl yr angen)
Cyflog: £21,000 - £26,000 (Pro rata)
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd), dydd Mercher, 08.11.2023
Cyfweliadau: Cynhelir yn ystod yr wythnos yn dechrau 13.11.2023

Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Fel cyflogwr, rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac yn ehangach yn fanwl gywir – a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Am becyn swydd – lawrlwythwch yma (PDF)
I lawrlwytho’r fffurflen gais – cliciwch yma (word)

Os hoffech drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â:
Steffan Thomas | steffan.thomas@galericaernarfon.com | 01286 685211

04.08.23 SWYDD: RHEOLWR PROSIECT GWELLA CANOL TREF CAERNARFON

Rydym yn chwilio am berson/cwmni/tîm i reoli prosiect newydd “Gwella Canol Tref Caernarfon” rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2024.

Dyma brosiect gwerth £1.2m sydd wedi’i ariannu yn rhannol gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a thrwy Gronfa Trawsnewid Trefi (Llywodraeth Cymru) a gan Galeri Caernarfon Cyf.

Y bwriad gyda’r prosiect yw prynu ac adnewyddu hyd at 4 adeilad yng nghanol tref Caernarfon a’u gosod i denantiaid masnachol a phreswyl.

Gellir lawrlwytho pecyn swydd yma (PDF)

Cyfnod y prosiect: 01.09.23 – 31.12.24
Nifer dyddiau: 110-130 diwrnod
Pecyn ariannol: hyd at £48,000 (yn cynnwys TAW) dros gyfnod y cytundeb. Mae’r pecyn ariannol i gynnwys holl gostau cyflogaeth/treuliau yr unigolyn/tîm.

I ymgeisio, ebostiwch:
- Lythyr cais (yn cynnwys gwybodaeth amdanoch, eich hanes, profiad o reoli a gweinyddu prosiectau)
- Eich costau (manylwch y costau a nifer dyddiau gwaith dros gyfnod y prosiect– gan gynnwys TAW)
- CV (ar gyfer bob person fydd yn rheoli/gweinyddu’r prosiect)
i sylw Steffan Thomas // steffan.thomas@galericaernarfon.com

Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun – 21.08.2023

Os am sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth yn y cyfamser, cysylltwch gyda:

Steffan Thomas - Prif Weithredwr - steffan.thomas@galericaernarfon.com
Gwyn Roberts - Cyfarwyddwr Datblygu - gwyn.roberts@galericaernarfon.com

23.05.23 Rheolwr Prosiect Creadigol CANFAS

Diddordeb yn y celfyddydau ac adfywio?
Yn berson trefnus sy’n gallu cydlynu ac arwain prosiectau?
Mwynhau siarad hefo pobl, ymgysylltu, casglu a rhannu gwybodaeth?

Os felly – dyma swydd ddelfrydol i ti…

Mae gennym gyfle i unigolyn trefnus, creadigol sydd yn gyfathrebwr gwych i arwain a rheoli prosiect creadigol CANFAS yng Nghaernarfon.

Cytundeb gwaith llawrydd sydd ar gael – gyda oleiaf 50 diwrnod o waith rhwng dechrau’r prosiect (Gorffennaf 2023 a diwedd Mawrth 2024).

Bydd deilydd y swydd yn atebol i Gyfarwyddwr Datblygu Galeri ac yn adrodd nol i’r grŵp llywio/rhanddeiliaid y prosiect yn rheolaidd yn ystod y cyfnod.

Cyflog: £250 y diwrnod (cytundeb gweithiwr llawrydd - i’w anfonebu yn fisol)
Cyfnod: Cyfnod datblygu’r prosiect, Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024 (amcangyfrif oleiaf 50 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn)
Oriau gwaith: Diwrnod gwaith llawn yn 7.5 awr – mae hyblygrwydd o ran gweithio diwrnod llawn neu ddau ½ diwrnod er engraifft yn ddibynol ar natur y tasgau/gwaith. Mi fydd disgwyl trefnu a mynychu digwyddiadau ymgynghori gyda’r nos ac ar benwythnosau
Lleoliad: Yn Galeri, Caernarfon fydd y swydd wedi’i leoli yn bennaf (bydd hyblygrwydd i allu gweithio o adref hefyd)
Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun – 05.06.2023.

Gellir lawrlwytho pecyn swydd yma (PDF)

Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Fel cyflogwr, rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac yn ehangach yn fanwl gywir – a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

I ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr yn nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd i sylw gwyn.roberts@galericaernarfon.com

Os hoffech drafod y dwydd ymhellach, cysylltwch â:

Gwyn Roberts // gwyn.roberts@galericaernarfon.com
Naomi Saunders // naomi.saunders@galericaernarfon.com

31.03.23 DIOLCH Gwyn

Heddiw yw diwrnod olaf Gwyn Roberts fel ein Prif Weithredwr.

Gwyn oedd aelod staff cyntaf y cwmni nol yn 1992 pan sefydlwyd Cwmni Tref Caernarfon yn Stryd y Plas.

31 mlynedd yn ddiweddarach, mae Gwyn wedi arwain, ysbrydoli a datblygu’r cwmni o fod yn gwmni adfywio yn bennaf i bellach fod yn un o prif fentrau cymunedol Cymru a chyflogwr hynod bwysig yn yr ardal. Mae’r cwmni yn parhau i fod wedi gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned ac yn berchen ar dros 20 o adeiladau ofewn tref Caernarfon (yn siopau/swyddfeydd/caffis/salonau/tai a fflatiau), yn gyfrifol am adeilad a rhaglen weithgareddau Galeri yn Doc Victoria a hefyd rheoli safle Cei Llechi sydd yn gartref i wneuthurwyr o bob math.

“Mae ein dyled yn fawr i Gwyn fel bwrdd am ei waith dros y 30 mlynedd diwethaf. Pan sefydlwyd y cwmni nol yn 1992, pwy fyddai wedi dychmygu y gwahaniaeth mae’r cwmni wedi ei wneud yn y dref, gan fod yn gatalydd i adfywio ac ail-danio economi’r dref. Mae llwyddiant a datblygiad y cwmni dros y tri deg mlynedd yn un sydd i’w glodfori, ac yn arwain ar hyn oll dros y blynyddoedd mae Gwyn. Dwi’n siwr byddai cymuned Caernarfon a’r dalgylch hefyd yn dymuno diolch i Gwyn am ei waith a’i ddyfalbarhad. Gall Gwyn edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw hefo Cwmni Tref Caernarfon ac yna Galeri Caernarfon gyda balchder. Mae ei weledigaeth yn amlwg yng Nghaernarfon heddiw.” Iestyn Harris, Cadeirydd Galeri Caernarfon Cyf

Bydd Gwyn yn parhau i weithio i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Datblygu, gyda Steffan Thomas yn cymryd yr awenau fel y Prif Weithredwr newydd.

Ar ran holl aelodau’r staff a’r bwrdd (presennol a blaenorol), ein tenantiaid, cynulleidfaoedd, cwsmeriaid a holl gymuned yr ardal sydd wedi elwa o waith Galeri Caernarfon Cyf – DIOLCH Gwyn.