galeri


Gostyngiadau

Fel menter gymdeithasol, rydym yn ceisio cadw pris tocynnau digwyddiadau mor isel a phosib. Cynnigir gostyngiadau ar gyfer rhai digwyddiadau, ond gall pwy sydd yn gymmwys ar gyfer gostyngiad newid o ddigwyddiad i ddigwyddiad. Ceir y manylion llawn am ostyngiadau ar dudalen y digwyddiad ar y wefan hon.

Cynllun PRIMA
Mae aelodau PRIMA yn derbyn gostyngiadau yn gyson trwy’r flwyddyn. Am bris blynyddol o £18 (1 aelod) neu £30 (2 aelod) gellir arbed ymhell dros £100 pob rhaglen! Am fwy o fanylion, cliciwch yma

Archebion grŵp
Gallwn hefyd deilwro pecynnau arbennig ar gyfer grwpiau sydd yn mynychu digwyddiadau. Boed yn ostyngiad ar bris tocynnau neu gynnig arbennig arall. Os oes gennych ddiddordeb trefnu trip grŵp (10+ person), cysylltwch â ni:
01286 685 222 | tocynnau@galericaernarfon.com i drafod ymhellach.

Tocynnau sinema
Cofiwch bod pris tocynnau sinema yn codi £2 y tocyn ar y diwrnod. Awgrymwn yn gryf eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw i sicrhau eich sedd (ac i arbed arian).