galeri


Nawdd a Rhoddion

imageAr gyfartaledd, cynhelir rhwng 400 – 500 o ddigwyddiadau yn Galeri pob blwyddyn gan werthu dros 40,000 o docynnau yn flynyddol. Dyma gyfle gwych i gwmni/cwmnïau gael eu gweld yn cefnogi’r celfyddydau a digwyddiadau yn un o brif ganolfannau Cymru.

Os oes diddordeb gennych mewn noddi cyfres o gyngherddau, nosweithiau comedi, rhaglen sinema Galeri neu gweithdai penodol ‘rydym yn cynnal yma – cysylltwch â ni. Gallwn greu pecyn nawdd unigryw ar eich cyfer a thrafod posibiliadau tymor byr a hir-dymor am greu partneriaeth gyda’ch busnes.

Un enghraifft o ddegau o gwmnïau sydd wedi elwa o noddi digwyddiadau yma yn Galeri yw Heritage Hardwood o’r Gaerwen…

“Rwyf wastad wedi’n nghyfareddu gan y delyn ac mae Catrin Finch yn un o fy arwyr. Roeddwn hefyd wedi clywed ychydig o gerddoriaeth Cimarron a oedd yn wych a phenderfynais fod cyngerdd Catrin Finch a Cimarron yn un digwyddiad yr oedd rhaid i Herritage Hardwood Conservatories ei gefnogi. Mae ein nawdd yn Galeri wedi profi i fod yn berthynas fasnachol gyd-fanteisiol sydd wedi agor ein cwmni i bob math o fuddion". - Ken Grayson, Heritage Hardwood Conservatories

Noddwyr presennol yn cynnwys:
Parc Pendine – cyngherddau TONIC a prosiect Cain
RONDO – Gŵyl Ffilm PICS

Diolchwn i Arts & Business Cymru am eu cefnogaeth parhaol.

Mae llawer o’r digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal gan Galeri yn bosib oherwydd haelioni unigolion fel Gwyn a Mary Owen. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Gwyn a Mary Owen wedi bod yn rhoi arian i’r elusen Crochan Celf. Mae Crochan Celf yn elusen sydd yn ceisio gwella amodau bywyd y cyhoedd yn gyffredinol a phobl anghenus drwy gyfrwng y celfyddydau.

Ma’e elusen yn rhoi cyfle i bobl ifanc, yr henoed a phobl mewn angen fynegi eu hunain, gan eu galluogi i drosglwyddo’u profiadau a’u sgiliau mewn modd a all fod o fudd iddynt yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

“Mae cefnogi digwyddiadau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc Caernarfon yn wir werth ei wneud, dim rhoi arian yn unig yw e. Rydym yn cael llawer o bleser o’r profiad gan ein body n gallu gweld y gwahaniaeth y mae yn ei wneud yn datblygu eu hunan hyder a hunan werth. Gan fy mod wedi cael fy magu yng Nghaernarfon rwyf gydag atgofion melys o’r ardal ac rwyf yn falch o weld fod fy nghyfraniadau yn darparu profiadau creadigol amhrisiadwy i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan” - Gwyn a Mary Owen

Eisuau trafod ymhellach?
Cysylltwch â Sonia Pritchard ar 01286 685 203 neu sonia.pritchard@galericaernarfon.com