galeri


Robot Dreams [PG]

image

Ffilm fud am Dog, sy'n unig, yn treulio nosweithiau hir yn ei fflat stiwdio yn Manhattan.

Wedi blino ar ei fywyd unig, mae'n penderfynu prynu ffrind, Robot, cydymaith llawn hwyl.

Ar ôl diwrnod delfrydol ar y traeth, maent yn fuan yn cael eu gwahanu. Wedi'i ddinistrio’n llwyr o ganlyniad i golli ei ffrind, mae Dog yn gwneud popeth o fewn ei allu i gael Robot yn ôl…

Dyma ffilm oedd ar restr fer yr Oscars (categori Ffilm Nodwedd Animeiddiedig)

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 
 
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

16:15 - Dydd Sadwrn, 4 Mai Tocynnau


Trêl