galeri


Breuddwydio’r Byd Arall | Dreaming the Other World

image

Noson o Chwedleua efo Cath Little, Fiona Collins, Angharad Owen, Claire Mace a’u gwestion arbennig 


Mae rhai yn dweud fod Elen, tywysoges y tiroedd hyn, wedi bwrw rhwyd freuddwyd i dynnu Ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig yr holl ffordd o Rufain i Gaernarfon, ac yn newid hanes wrth i'i wneud. 

Camwch i’r freuddwyd ac ymunwch â chwedlwragedd proffesiynol o bob rhan o Gymru am noson o chwedlau traddodiadol bydd yn cael eu hadrodd yn ddwyiethog. Trwy gerddoriaeth, cân, a stori, byddwn yn teithio’r llwybrau trwy ein byd a bydoedd eraill, yn clywed chwedlau o’r byd deffro a’r byd breuddwydiol. 

Yn addas ar gyfer 11+. 

Mae'r perfformiad hwn yn rhan o TAIR: blwyddyn a diwrnod o straeon merched, wedi'i hysbrydoli gan angerdd y chwedlwraig a chantores Esyllt Harker am straeon llai adnabyddus am ferched o’r gwledydd hyn. Mwy ar: www.anadlu.com

19:30 - Dydd Gwener, 31 Mai Tocynnau