galeri


Blasu Crefft - Cerameg hefo Lillemore Latham/Ceramics with Lillemore Latham

image

Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol. 
Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00. 
Gweddill y dyddiadau/celfyddyd:

18/04/24 – Argraffu Sgrin hefo Rhi Moxon
23/05/24 – Cerameg hefo Lillemore Latham
20/06/24 – Darlun hefo Chris Higson
18/07/24 – Pigmentau Naturiol hefo Rhiannon Rees
22/08/24 – Gemwaith hefo Tesni Calenning

£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn.

Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. 

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

18:00 - Dydd Iau, 23 Mai Tocynnau