galeri


The Boy & The Heron [12A]

image

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae Mahito ifanc yn cael ei symud i dŷ ei dad a’i lysfam yng nghefn gwlad. Yn llawn galar ar ôl marwolaeth drasig ei fam, mae’n cael trafferth setlo i’w fywyd newydd. Yn sydyn, mae ei fyd newydd yn dod yn rhyfeddach fyth pan mae’n cwrdd â chrëyr glas sy’n siarad, ac sy’n mynd ag e i fyd rhyfeddol. Ffilm weledol drawiadol am fod yn ddigon dewr i dderbyn y boen ac i ymhyfrydu yn llawenydd bod yn ddynol…

Ffilm gan Hayao Miyazaki a Studio Ghibli

Tocynnau yn £4 yr un!

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.

Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

10:15 - Dydd Sadwrn, 11 Mai Tocynnau

16:15 - Dydd Sadwrn, 18 Mai Tocynnau


Trêl